gwyddonydd a diwinydd o Sweden o'r 18fed ganrif (1688-1772) From Wikipedia, the free encyclopedia
Athronydd, gwyddonydd, diwinydd a chyfrinydd Cristnogol o Sweden oedd Emanuel Swedenborg (8 Chwefror [29 Ionawr yn yr Hen Ddull] 1688 – 29 Mawrth 1772) a ystyrir yn un o'r prif feddylwyr yn nhraddodiad cyfriniol y Gorllewin. Ysgrifennodd nifer o destunau yn yr iaith Ladin, gan gynnwys dehongliadau o'r Ysgrythurau fel gair digyfrwng Duw. Pontiodd ei fywyd a'i waith oesoedd yr Oleuedigaeth a Rhamantiaeth, a châi ei syniadaeth ddylanwad pwysig ar sawl mudiad deallusol a chrefyddol wedi ei farwolaeth. Gelwir ei dysgeidiaeth, sy'n ddiarhebol dywyll a dwfn, yn Swedenborgiaeth, a sefydlwyd Eglwys y Jeriwsalem Newydd ar ei sail.
Emanuel Swedenborg | |
---|---|
Ganwyd | 29 Ionawr 1688 (yn y Calendr Iwliaidd) Stockholm, Jakob and Johannes parish |
Bu farw | 29 Mawrth 1772 o strôc Llundain |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffisegydd, athronydd, diwinydd, mathemategydd, cyfrinydd, llenor, gwyddonydd, dyfeisiwr |
Cyflogwr | |
Tad | Jesper Swedberg |
Llinach | Swedenborg |
llofnod | |
Ganed ef yn Stockholm, yng nghyfnod Ymerodraeth Sweden, i deulu amlwg a chefnog. Ymddisgleiriodd yn ei astudiaethau ers ei flynyddoedd cynnar, a chafodd yrfa lwyddiannus fel gwyddonydd a pheiriannydd. Yn ogystal â'i ymchwil ym maes ffiseg a'i waith mathemategol, dyfeisiodd fodd i adeiladu dociau sych a dyluniodd long danfor gynnar.
Wedi iddo droi'n 30 oed, symudodd ei sylw tuag at athroniaeth a metaffiseg, ac aeth ar daith ysbrydol. Honnodd ei fod wedi cael sawl profiad goruwchnaturiol gan gynnwys gweld angylion ac ysbrydion. Credodd i Dduw ei benodi i ddatguddio gwirionedd y byd ysbrydol a bywyd ar ôl marwolaeth. Ei gampwaith ydy Arcana Caelestia, a gyhoeddwyd mewn wyth cyfrol o 1749 i 1756.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.