From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd David Pugh (14 Awst 1789 – 20 Ebrill 1861) yn fasnachwr te, yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn yn Nhŷ'r Cyffredin ym 1832 ac eto rhwng 1847 a 1861.[1]
David Pugh | |
---|---|
Ganwyd | 14 Awst 1789 Lewisham |
Bu farw | 20 Ebrill 1861 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Ganwyd David Pugh yn Lewisham, Swydd Gaint[2]; yn unig fab i Charles Pugh, Perry Hill, a Jane Lloyd ei wraig a merch William Lloyd.
Ym 1814 priododd Pugh, ei gyfnither, Anne, unig ferch ac aeres Evan Vaughan Bugeildy, Sir Faesyfed. Bu iddynt dri mab a dwy ferch, sef:
Ar farwolaeth ei hen fodryb ym 1819, daeth Pugh yn berchennog ystâd ei hen ewyrth David Lloyd o Llanerchyddol, ger y Drenewydd a'i gwmni mewnforio te David Lloyd and Piggot, Rood Lane, Llundain, un o fasnachwyr te mwyaf gwledydd Prydain hyd y 1920au.
Roedd Pugh yn Gapten yng Nghatrawd Gwŷr Meirch Gwirfoddol Sir Drefaldwyn o 1819 hyd i'r gatrawd gael ei ddiddymu ym 1828. Ar ymgorfforiad y Gwŷr Meirch Iwmyn Sir Drefaldwyn ym 1831, fe'i penodwyd yn uwch gapten; cyn iddo ymddiswyddo'i gomisiwn ym 1844.
Roedd yn Gofiadur Llys y Trallwng.
Safodd fel ymgeisydd Torïaidd / Ceidwadol yn etholiad cyffredinol 1832 gan ennill y frwydr yn erbyn ei wrthwynebydd Chwig/Rhyddfrydol John Edwartds; Heriodd Edwards y canlyniad ger bron Llys Etholiadol y Senedd; enillodd yr achos a gorchymynnwyd etholiad newydd, gan wahardd Pugh rhag ail ymgeisio.
Safodd eto yn etholiad 1847, fel Ceidwadwr mwy Rhyddfrydol na'r ymgeisydd Ceidwadol swyddogol Hugh Cholmondeley. Canlyniad yr etholiad oedd bod y ddau ymgeisydd yn gyfartal.
Etholiad cyffredinol 1847: Bwrdeistref Trefaldwyn | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | David Pugh | 389 | 50 | ||
Ceidwadwyr | Hugh Cholmondeley | 389 | 50 | ||
Mwyafrif | 0 | ||||
Y nifer a bleidleisiodd | 79.2 |
Gan fod y ddau ymgeisydd yn gyfartal bu'n rhaid i bwyllgor seneddol pennu'r buddugol; gan na wnaed cais i'r pwyllgor i gefnogi achos Cholmondeley dros gadw'r sedd etholwyd Pugh.[4][5] Cadwodd ei sedd hyd ei farwolaeth ym 1861. Ni ynganodd gair mewn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin, ond yr oedd yn ffyddlon ei gefnogaeth i'w blaid gyda'i bleidlais ar bob achlysur gofynnwyd amdano.
Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Drefaldwyn ym 1823.
Bu farw yn Llanerchyddol, yn 71 mlwydd oed a'i chladdu yn Eglwys y Drenewydd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.