clerigwr a hanesydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Clerigwr a hanesydd o Gymru oedd David Powel (tua 1552 – 1598). Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur y gyfrol ddylanwadol Historie of Cambria, now called Wales.
Roedd yn fab i Hywel ap Dafydd o Llandysilio-yn-Iâl a Bryneglwys yn Sir Ddinbych. Aeth i astudio i Rydychen tua 1568, gan symud i Goleg Iesu pan sefydlwyd hwnnw yn 1571. Dywedir mai ef oedd y person cyntaf i raddio o'r coleg.
Dath yn ficer Rhiwabon yn 1570 ac ychwanegodd ficeriaeth Llanfyllin yn 1571, cyn cyfnewid Llanfyllin am ficeriaeth Meifod yn 1579. Yn 1588/9 daeth yn rheithor Llansantffraid-ym-Mechain. Dywedir iddo gynorthwyo yr Esgob William Morgan i gyfieithu'r Beibl.
Ym 1583 gofynnwyd iddo baratoi cyfieithiad Humphrey Lhuyd o Frut y Tywysogion i'r wasg. Helaethodd Powel ar y gwaith yma, ac yn 1584 cyhoeddodd Historie of Cambria, now called Wales, carreg filltir bwysig iawn yn hanesyddiaeth Cymru.
Priododd Elisabeth, ferch Cynwrig o Farchwiail, a chawsant dri mab.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.