ysgrifennwr, cenhadwr, meddyg ac awdur, daearyddwr, fforiwr (1813-1873) From Wikipedia, the free encyclopedia
Cenhadwr a fforiwr o'r Alban oedd David Livingstone (19 Mawrth 1813 – 1 Mai 1873).
David Livingstone | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mawrth 1813 Blantyre |
Bu farw | 1 Mai 1873 o malaria Ilala Hill |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig, Yr Alban |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | fforiwr, meddyg ac awdur, daearyddwr, llenor, cenhadwr |
Priod | Mary Livingstone |
Plant | Agnes Livingstone Bruce |
Perthnasau | Robert Moffat (explorateur) |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal y Noddwr, Grande Médaille d'Or des Explorations, Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol |
llofnod | |
Ganed ef yn Blantyre, Swydd Lanark, yn fab i Neil Livingstone (1788-1856) a'i wraig Agnes (1782-1865). Dechreuodd David weithio yn y felin gotwm leol. Yn 1836 aeth i Brifysgol Anderson, Glasgow, i astudio, ac yn fuan wedyn, derbyniwyd ei gais i ymuno â Chymdeithas Genhadol Llundain. Aeth i Lundain i astudio i fod yn feddyg. Yno cyfarfu a Robert Moffat, cenhadwr ar wyliao o Kuruman, De Affrica. Yn 1841, aeth Livingstone i Kuriman, yna yn 1844 symudodd i'r gogledd i ddechrau cenhadaeth yn Mabotswa. Yma, bu bron iddo gael ei ladd gan lew, a'i anafodd yn ddifrifol.
Yn 1845, priododd Mary, merch Robert Moffat. Ganed eu merch, Agmes, yn 1847. Rhwng 1852 a 1856, bu'n fforio tua'r gogledd, ac ef oedd yr Ewropead cyntaf i weld rhaeadr Mosi-oa-Tunya, a enwyd yn Rhaeadr Victoria ganddo. Roedd yn un o'r Ewropeaid cyntaf i deithio ar draws Affrica, o Luanda i Quelimane.
O 1858 hyd 1864 bu'n arwain ymgyrch i fforio afon Zambezi. Dychwelodd i Affrica yn 1866, i Sansibar, i ddechrau ymgyrch i chwilio am darddle afon Nîl. Ef oedd yr Ewropead cyntaf, mae'n debyg, i weld Llyn Malawi. Gwnaeth lawer i geisio dileu y fasnach mewn caethweision yn nwyrain Affrica. Gan nad oedd newyddion amdano wedi cyrraedd Sansibar, yn 1869 gyrrwyd Henry Morton Stanley gan y New York Herald i chwilio amdano. Cafodd Stanley hyd iddo ar lan Llyn Tanganyika ar 10 Tachwedd 1871. Roedd Livingstone eisoes yn wael, a bu farw yn Ilala, yn awr yn Sambia.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.