From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn Ieithyddiaeth mae cywair yn derm ar gyfer y defnydd o amrywiaethau iaith yn ôl y cyd-destunau.
Er enghraifft, mae cyweiriau penodol ar gyfer byd y gyfraith, hysbysebion, siarad gyda'r teulu, ysgrifennu llyfrau plant ac yn y blaen.
Mae Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor yn diffinio Cywaith Iaith fel:
Ystyr cywair iaith (language register), yw’r math o iaith y byddwn yn ei siarad neu’n ei sgrifennu mewn gwahanol sefyllfaoedd e.e. mae’r iaith y byddwch yn ei siarad mewn tafarn neu wrth wylio gêm bêl droed â’ch ffrindiau yn wahanol i’r iaith y byddwch yn ei siarad yn eich gwaith gyda rhywun pwysig
Mae Canllawiau Iaith S4C yn cynghori:
Dylid diffinio’r gynulleidfa darged yn ofalus wrth ystyried y cywair ieithyddol priodol ar gyfer pob rhaglen
Tra bod amrywiaeth fawr o gyweiriau iaith a’u defnydd, yn aml mae’r cywair yn newid yn ôl ffurfioldeb y sefyllfa.
Wrth ysgrifennu Cymraeg dyma rhai elfennau sy’n nodi’r gwahaniaeth rhwng y cywair llenyddol a’r anffurfiol:
Cywair iaith pob dydd | Cywair iaith ffurfiol |
---|---|
Mae’r plant yn cerdded i’r ysgol | Cerdda’r plant i’r ysgol |
Cafodd y drych ei falu | Malwyd y drych |
Ddarllenodd Siôn ddim y papur | Ni ddarllenodd Siôn y papur |
Ddarllenodd Carol y papur? | A ddarllenodd Carol y papur? |
Paid cerdded ar y glaswellt | Na cherddwch ar y glaswellt |
Gofynnodd os oedd yr aelodau’n fodlon | Gofynnodd a oedd yr aelodau’n fodlon |
Nhw | Hwy |
Gwyn, syml, byr, du, a.y.b. | Wen, gwynion, seml, fer, byrion, duon, a.y.b. |
Y dyn yma/y ferch yma/y bobol yma | Hwn/hon/y bobl hyn |
Os mae, pan mae | Os yw, pan yw |
Ci a cath | Ci a chath |
Ein amser | Ein hamser |
Mae Gorchmynion Rheoli Cŵn yn ei gwneud yn drosedd i berson sydd â gofal am gi “i fynd â’r ci neu i ganiatáu i’r ci i fynd neu i aros ar unrhyw dir y mae’r gorchymyn yn berthnasol iddo” (ac eithrio ar briffordd mabwysiedig neu lwybr troed cyhoeddus, sydd wedi’u heithrio’n benodol o dan y gyfraith)
Eisiau cadw’n ffit? Eisiau arbed arian? Beth am gerdded i’r gwaith? ...Cyfle grêt i ddod i nabod pobol ar y ffordd - ac mae’n fwy o hwyl! Cerdded – da iti a da i dy boced!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.