Cymer, Cwm Afan

pentref yng Nghwm Afan (Castell-nedd Port Talbot) From Wikipedia, the free encyclopedia

Pentref ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Cymer, hefyd Cymmer. Saif yng Nghwm Afan, a chaiff ei enw oherwydd ei fod gerllaw cymer Afon Afan ac Afon Corrwg. Mae hefyd ger cyffordd y priffyrdd A4063 ac A4107.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Cymer
Mathpentref 
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot 
Gwlad Cymru
Cyfesurynnau51.65°N 3.65°W 
Cod OSSS860961 
Cod postSA13 
Gwleidyddiaeth
Thumb
Cau

Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 2,883. Yn 2005, enwyd ward etholiadol Cymer, sydd hefyd yn cynnwys pentrefi Croeserw a Duffryn, fel un o'r 10% o wardiau gyda mwyaf o dlodi yng Nghymru.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[1].

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.