From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Culfor Yenisei a'i hynysigau'n perthyn i ranbarth weinyddol Krasnoyarsk Krai o Ffederasiwn Rwsia ac yn rhan o Warchodfa Natur Wladwriaeth Fawr yr Arctig, y warchodfa natur fwyaf yn Rwsia.
Mae Culfor Yenisei yn cael ei ffurfio drwy i'r afon ehangu i gyfartaledd o 50 km (31 mi) hyd at 250 km (160 mi) yn fras mewn cyfeiriad o'r gogledd i'r de, rhwng lledred o 70° 30' N yn yr ardal o amgylch anheddiad Munguy, i'r gogledd o Dudinka. Mae'r rhanbarth gyfan o Îs-Yenisei yn llwm a'r boblogaeth yn denau, ac mae'r anheddiadau wedi eu hadeiladu ar ddaear rew-parhaol. Nid oes unrhyw lystyfiant ac eithrio mwsoglau, cennau a rhai glaswellt. Mae dyfroedd arfordirol yn gynefinoedd ar gyfer morfilod beluga.
Dyfnder mwyaf Culfor Yenisei yw 63 m (208 tr).
Lleolir aber Culfor Yenisei yn fras yn 72° 30' N, yn ardal Ynys Sibiryakov, yn y Môr Kara.
Mae patrwm tywydd yr ardal yn llym, gyda gaeafau difrifol a stormydd a gwyntoedd cryfion ac aml. Mae aber yr Afon Yenisei'n rhewi am gyfnod o naw mis y flwyddyn, a hyd yn oed yn yr haf, nid yw byth yn hollo rhyme o new a llîf-rew. Yn ystod y gaeaf bydd môr-lwybrau'n cael eu cadw'n agored gan longau torri rhew.
Colin Thubron, In Siberia.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.