Cronfa Ariannol Ryngwladol

From Wikipedia, the free encyclopedia

Cronfa Ariannol Ryngwladol

Corff rhyngwladol yn ymwneud â materion economaidd yw'r Gronfa Ariannol Ryngwladol (Saesneg: International Monetary Fund a dalfyrrir fel rheol i IMF). Fe'i sefydlwyd yn 1944, yr un pryd a Banc y Byd, a dechreuodd yn swyddogol yn Rhagfyr 1945. Mae bron pob gwlad sy'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig yn aelodau o'r Gronfa, ac eithrio Ciwba, Taiwan, Gogledd Corea ac ychydig o wledydd bychain iawn.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dechrau/Sefydlu ...
Cronfa Ariannol Ryngwladol
Thumb
Enghraifft o:international financial institution, asiantaeth arbenigol y Cenhedloedd Unedigl 
Dechrau/SefydluGorffennaf 1944 
Pennaeth y sefydliadRheolwr Gyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol 
Prif weithredwrKristalina Georgieva 
Thumb
Aelod o'r  canlynolNetwork for Greening the Financial System, ORCID 
Gweithwyr2,908 
Rhiant sefydliadY Cenhedloedd Unedig 
PencadlysWashington 
GwladwriaethUnol Daleithiau America 
Gwefanhttps://www.imf.org/ 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Amcanion

  1. hybu cydweithrediad economaidd a sefydlogrwydd.
  2. sicrhau tŵf economaidd.
  3. rhoi cymorth i wledydd i gywiro problemau gyda balans taliadau

Cyfarwyddwyr

Yn draddodiadol, mae Cyfarwyddwr y Gronfa yn dod o Ewrop, tra fod pennaeth Banc y Byd yn dod o'r Unol Daleithiau.

  • 1946 – 1951: Camille Gutt
  • 1951 – 1956: Ivar Rooth
  • 1956 – 1963: Per Jacobsson
  • 1963 – 1973: Pierre-Paul Schweitzer
  • 1973 – 1978: Johannes Witteveen
  • 1978 – 1987: Jacques de Larosière
  • 1987 – 2000: Michel Camdessus
  • 2000 – 2004: Horst Köhler
  • 2004 (dros dro): Anne Krüger
  • 2004 – 2007: Rodrigo de Rato y Figaredo
  • 2007 – heddiw: Dominique Strauss-Kahn

Mae rhai wedi beirniadu'r Gronfa am ei hymlyniad wrth y farchnad rydd, ac yn dweud fod rhai o'r gwledydd tlotaf wedi cael eu gorfodi i gymeryd mesurau a oedd, yn eu tro, yn peri caledi i lawer o'u poblogaeth.

Gweler hefyd


Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.