rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Crëyr glas (Ardea cinerea) yn un o deulu'r Ardeidae, y crehyrod. Mae'n aderyn cyffredin trwy Ewrop ac Asia.
Crëyr glas | |
---|---|
Creyr glas yn Llandegla | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Ciconiiformes |
Teulu: | Ardeidae |
Genws: | Ardea |
Rhywogaeth: | A. cinerea |
Enw deuenwol | |
Ardea cinerea Linnaeus, 1758 | |
Nid yw'r Crëyr glas yn aderyn mudol fel rheol, ond mae'r adar sy'n byw yn y rhan ogleddol o Ewrop ac Asia yn symud tua'r de neu tua'r gorllewin yn y gaeaf. Mae'n aderyn mawr, 1 m o daldra a 1.5 m ar draws yr adenydd, gyda gwddf hir a thenau. Mae'r plu yn llwydlas ar y cefn ac yn wyn oddi tano.
Fel rheol mae'r Crëyr glas yn nythu mewn coed gweddol uchel, heb fod ymhell o lyn, afon neu rywle arall y gellir dal pysgod. Maent yn nythu gyda'i gilydd fel rheol, yn ffurfio "creyrfa", a gallant ddefnyddio yr un coed am flynyddoedd lawer. Ambell dro gallant nythu ar lawr lle mae'n ddiogel gwneud hynny.
Pysgod bach a llyffantod yw eu bwyd fel rheol, ac maent yn eu dal drwy aros yn llonydd ger y dŵr nes gweld cyfle i drywanu'r prae gyda'r pig hir a miniog. Ambell dro gellir eu gweld mewn caeau yn hela llygod ac anifeiliaid bychain eraill, ac mae cofnodion amdanynt yn bwyta adar gweddol fawr.
Gall creyrfeydd barhau am gyfnodau hir iawn ond mae yna rai hanesyddol nad ydynt mwyach. Dyma enghraifft:
Mae papur gan Max Nicholson (1928) yn rhestru creyrfeydd Cadnant a Threiorwerth fel yr unig greyrfeydd gweithredol ym Môn y pryd hwnnw. Daeth y greyrfa i ben yn 1986 yn ôl y son.
DOSBARTHIAD Y CREYR GLAS YNG NGWYNEDD
Fe welwch ar y map mai ar hyd y glannau, gan mwyaf, y mae'r creyr yn nythu yn y sir. Ceir mwy o greyrfeydd fodd bynnag, ar hyd arfordiroedd “meddal” tywodlyd megis rhai gorllewin Môn, de Llŷn, a gorllewin Meirion, nag ar hyd y glannau creigiog. Nid yw'r duedd hon mor gref ym Mon — ceir mwy o nythod ymhell o'r glannau yn y fan honno. Mae'r boblogaeth yn gryf hefyd, os wasgaredig, ar hyd y Fenai, efallai oherwydd yr amodau cynhyrchiol a chysgodol sydd i'w cael yno
Ymddengys mai ar yr aberoedd a'r traethau y mae prif gynhaliaeth y crëyr yng Ngwynedd, gyda'r afonydd a'r llynnoedd yn cael eu defnyddio i raddau llai. Mae'n debyg fod eu hangen am goedlannau tal, diogel yn cyfyngu rhywfaint ar eu dewis o nythfa. Ar ôl cynefin ffrwythlon i hel ei damaid, y peth nesaf ar restr y creyr o angenrheidiau bywyd yw coed addas, diogel i godi nyth. Dyma'r mathau o goed a ddefnyddiwyd yn yr wythdegau yn 'Sir Gaernarfon', yn nhrefn eu poblogrwydd: sbriws, llarwydd, ceirios, ffynidwydd, derw, gwern, ffawydd, a llwyni isel.
EI HEN HANES Dywedodd Forrest (1907) mai llecynnau hel bwyd, nid nythfannau, yw llynnoedd unig Eryri i'r crëyr. Mae hynny yn wir o hyd. Cofnododd bwysigrwydd Môn, y Fenai ac aberoedd y gorllewin i grehyrod ei ddydd, ond soniodd amdanynt hefyd yn nythu, yn nechrau'r 19g mewn mannau nas gwelwyd hwy wedyn. Penrhynau creigiog y môr oedd y mannau hyn, ac fe nododd Ynys Lawd (Caergybi), Pen-y-gogarth (Llandudno), Carreg y Llam (Nefyn), a Phorth Meudwy (Aberdaron) yn eu plith. Diflannodd y crëyr o’r safleoedd hyn, ac o Goed Corsygedol (Y Bermo), Cwm Bychan (Harlech) a Llyn Tegid, diolch gofnodion Forrest.
Diolch eto i sylwadau Forrest a'i welwedigaeth, gwyddom hefyd bod rhai o greyrfeydd y sir sydd yn fyw ac iach heddiw, wedi bod yn union felly ers o leiaf y ganrif ddiwethaf.
YR HANES DIWEDDAR Ar waetha'r holl gyfri a fu o'r crëyr glas, mae'n rhaid, serch hynny, fod yn hynod ofalus wrth ddehongli’r ystadegau. Nid yw pob creyrfa yn cael ei chyfri pob blwyddyn, ac nid yw'n bosib felly cymharu cyfanswm nythod y sir o flwyddyn i flwyddyn. Roedd rhaid bodloni, ar gyfer y graff, ar gyfanswm flynyddol a gafodd ei seilio yn unig ar y creyrfeydd y bu'r cyfri ohonynt yn ddigon cyson i ganiatau cymhariaeth. Mae hynny yn ein cyfyngu i ddeg o safleoedd a chyfnod o ddeng mlynedd yn unig.
I wneud y gorau posib o'r holl wybodaeth, gallwn amcangyfrif yn weddol gall bod oddeutu 230-250 o grehyrod yn nythu. yn y sir pan fu'r boblogaeth ar ei anterth yn yr wythdegau. Yn 'Sir Caernarfon' y bu'r boblogaeth ar ei chryfaf. Mae'r graff yn dangos trai a llanw ym mhoblogaeth y crëyr dros y cyfnod. Cafwyd nifer mawr i ddechrau, ond gostyngodd yn raddol tan tua chanol y ddegawd, cyn codi unwaith eto tua'i diwedd. Bu'r boblogaeth tra ar ei chryfaf, bron ddwbl yr hyn ydoedd ar ei gwanaf, yn ôl y sampl beth bynnag.
Bu'r trai yn gryfach ym Meirion nag ym Môn, ond daeth y cynnydd diweddaraf i ran crehyrod Môn a Meirion fel ei gilydd. Ni fu'r data o 'Sir Caernarfon' yn ddigonol i ganiatau yr un ymdriniaeth ystadegol. Ni ddilynodd pob creyrfa yr un patrwm dros y ddegawd. Er enghraifft, methodd creyrfa Plas Tan y Bwlch (Maentwrog) adennill ei thir yn unol â'r duedd gyffredinol. Ymddangosodd y greyrfa hon am y tro cyntaf yn 1972; cynyddodd i 16 o nythod erbyn 1980, ond dau nyth yn unig oedd yno erbyn diwedd y ddegawd. Aeth creyrfa Penmachno hefyd yn groes i'r duedd mewn ystyr arall. Sefydlwyd y greyrfa ddiweddar hon 800 troedfedd uwchlaw'r mor — Ilawer uwch na'r rhelyw o nythod yn y sir. Ambell bar yn unig fydd yn mentro nythu yn y mynydd-dir gan amlaf, a hynny ambell flwyddyn yn unig (gweler y marciau ‘?’ ar y map).[2]
Mae'r nifer o grehyrod yng ngwledydd Prydain heddiw yn uwch nag erioed o'r blaen yn hanes yr Arolwg (1928-89) (Marchant 1990). Graddol iawn fu'r cynnydd, ac fe ddioddefodd y boblogaeth yn arw iawn ar ôl gaeafau caled 1947 a '63. Nid yw'r wybodaeth o Wynedd, a gafwyd ar y pryd, yn ddigonol i ganiatáu i ni farnu p'un ai oedd hynny yn wir yno ai peidio. Gellid disgwyl i fwynder yr aberoedd a'r arfordir liniaru rhywfaint ar effeithiau gwaethaf gaeafau o'r math.
Cynyddodd nifer y creyr glas yn Lloegr yn gyson ar hyd y ddegawd, and nid felly yng Nghymru (Marchant 1990). Yma bu gostyngiad yn nifer y nythod yn harmer cyntaf yr wythdegau, a chynnydd wedyn tua'r diwedd. Dyna'r union batrwm a welsom yng Ngwynedd. Nid yw'n glir beth oedd y rheswm am y tro ar fyd - parhau i gyfri yw'r unig ffordd i amlygu'r patrymau hyn a'u priodoli yn y pen draw i ffactorau yn yr amgylchedd.
James Nicholas
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.