Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwarchodfa Natur Genedlaethol gerllaw dinas Abertawe yw Cors Crymlyn (cyfeirir ati yn Saesneg fel Crymlyn Bog). Hi yw'r esiampl fwyaf yng Nghymru o gors alcalin ar yr iseldir neu ffen.
Math | cors, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 280.98 ha |
Cyfesurynnau | 51.6364°N 3.8883°W, 51.636356°N 3.88818°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Saif y gors i'r dwyrain o ganol Abertawe, mewn ardal oedd unwaith yn aber Afon Clydach ac Afon Nedd. Ar un adeg roedd purfa olew ar ran o'r safle, ac mae hen gamlas Glan-y-wern yn arwain trwy'r warchodfa. Heblaw'r gors ei hun, ceir amrywiaeth o gynefinoedd a rhai planhigion sy'n brin ym Mhrydain, yn cynnwys Plu'r Gweunydd Eiddil, Rhedynen Wyfrdwy, Gwlithlys, Llymfrwynen a Swigenddail Lleiaf. Ceir amrywiaeth o adar yno hefyd, yn cynnwys Rhegen dŵr ac Aderyn y bwn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.