From Wikipedia, the free encyclopedia
Prifysgol yn Nulyn, Iwerddon, yw Coleg Prifysgol Dulyn (Gwyddeleg: Coláiste na hOllscoile, Baile Átha Cliath; Saesneg: University College Dublin, UCD). Mae'n aelod-sefydliad ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon. Mae ganddi mwy na 33,000 o fyfyrwyr, a hi yw'r brifysgol fwyaf yn Iwerddon.
Math | prifysgol gyhoeddus, prifysgol ymchwil |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dulyn |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.3076°N 6.21981°W |
Mae'r goleg yn tarddu o gorff a sefydlwyd ym 1854, a agorodd fel Prifysgol Gatholig Iwerddon gyda John Henry Newman yn ei rheithor cyntaf; ail-ffurfiodd ym 1880 ac enillodd ei siartr ei hun ym 1908. Ym 1997 ailenwyd y brifysgol gyfansoddol yn "Brifysgol Genedlaethol Iwerddon, Dulyn", ac yn 1998 ailenwyd y sefydliad ei hun yn "Goleg Prifysgol Dulyn - Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Dulyn".
Yn wreiddiol safodd y brifysgol yn St Stephen's Green yng nghanol dinas Dulyn, ond bellach mae'r holl gyfadrannau wedi symud i gampws yn Belfield, 4 km i'r de o ganol y ddinas.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.