From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Clwy'r ceudod neu glefyd coeliac, sydd weithiau'n cael ei sillafu fel clefyd celiac, yn salwch hunanimíwn o darddiad genetig sy'n effeithio yn bennaf ar y coluddyn bach.[1] Mae'r symptomau yn cynnwys problemau gastrogoluddol megis dolur rhydd parhaus, chwyddo abdomenol, diffyg traul, colli awydd am fwyd, ac ymhlith plant fethiant i dyfu yn normal. Mae hyn yn aml yn dechrau pan fo'r dioddefwr rhwng chwe mis a dwy oed. Mae symptomau nad ydynt yn nodweddiadol yn fwy cyffredin, yn arbennig ymhlith pobl sydd dros ddwy oed.[2][3][4] Gall fod symptomau gastrogoluddol ysgafn neu absennol, nifer eang o symptomau yn effeithio ar unrhyw ran o'r cordd, neu ddim symptomau amlwg o gwbl. Cafodd clwy'r ceudod ei ddisgrifio gyntaf mewn plant;[5][6] fodd bynnag, gall ddatblygu unrhyw bryd ym mywyd y dioddefwr.[7] Mae'n cael ei gysylltu a chlefydau hunanimíwn eraill, megis diabetes mellitus teip 1, a thyroiditis, ymhlith eraill.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | clefyd hunanimíwn y system gastroberfeddol, anhwylder sy'n berthnasol i glwten, clefyd |
Symptomau | Dolur rhydd, rhwymedd, chwydu, cyfog |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae clwy'r ceudod yn cael ei achosi gan adwaith i glwten, sef protinau amrywiol sydd i'w cael mewn gwenith a grawn eraill, megis barlys a rhyg.[8][9][10] Mae swmpiau cymhedrol o geirch, sydd heb eu difwyno gan grawn sy'n cynnwys glwten, fel arfer yn gallu ei oddef.[11] Gall y problemau gael eu hachosi gan fathau penodol o geirch.[12] Wrth ddod i gysylltiad a glwten, gall ymateb imiwn annormal arwain at cynhyrchu gwahanol hunanwrthgyrff sy'n gallu effeithio ar nifer o organau.[13][14] Mae hyn yn achos adwaith ennynol yn y coluddyn bach all fyrhau'r leinin fili (crebachiad filaidd) yn y coluddyn bach.[15] Mae hyn yn effeithio ar amsugno maetholion, gan arwain yn aml at anemia.
Mae diagnosis fel arfer yn cael ei wneud trwy gyfuniad o brofion gwrthgyrff gwaed a biopsïau coluddol, gyda chymorth profion genetig. Nid yw cadarnhau'r diagnosis yn rhwydd. Yn aml, mae'r gwrthgyrff yn y gwaed yn negyddol[16] ac mae nifer o bobl ond yn dangos newidiadau coluddol bychain gyda fili arferol.[17] Gall pobl ddangos symptomau eithafol a chael eu archwilio am flynyddoedd cyn y cyflawnir y diagnosis.[18] Yn fwyfwy, mae'r diagnosis yn cael ei wneud ar bobl nad ydynt yn dangos symptomau o ganlyniad i sgrînio.[19] Nid yw'r dystiolaeth ynghylch effeithiau sgrînio, fodd bynnag, yn ddigonol i benderfynu a yw'n ddefnyddiol ai peidio.[20] Tra bod y clefyd yn cael ei achosi tan anoddefgarwch parhaol i brotinau gwenith, nid yw'n ffurf o alergedd gwenith.
Yr unig driniaeth effeithiol sy'n hysbys yw'r deiet di-glwten llym gydol oes, sy'n arwain at adfer y mucosa coluddol, yn gwella symptomau ac yn lleihau'r risg o ddatblygu cymhlethdodau yn achos y rhan fwyaf o bobl.[21] Os nad yw'n cael ei drin, gall arwain at ganserau, megis lymffoma coluddol a chynnydd bychan yn y risg o farwolaeth gynnar.[22] Mae cyfraddau yn amrywio rhwng gwahanol ranbarthau'r byd, o cyn lleied a 1 mewn 300 i gynifer a 1 mewn 40, gyda'r cyfartaledd rhwng 1 mewn 100 ac 1 mewn 170 o bobl.[23] Mewn gwledydd datblygedig, amcangyfrifir bod 80% o achosion heb gael eu hadnabod, fel arfer am nad oes cwynion gastrogolyddol ac oherwydd ymwybyddiaeth isel o'r cyflwr.[24] Mae'r clefyd ychydig yn fwy cyffredin ymhlith menywod na dynion.[25] Mae'r term "coeliac" yn tarddu o'r Groeg κοιλιακός (koiliakós, "abdomenol") a chafodd ei gyflwyno yn y 19eg ganrif mewn cyfieithiad o'r hyn a ystyrir yn gyffredinol fel disgrifiad o'r hen Roeg o glefyd Aretaeus o Cappadocia.[26][27]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.