Chwarel Gorseddau
From Wikipedia, the free encyclopedia
Chwarel lechi yng Nghwmystradllyn i'r gogledd o dref Porthmadog, Gwynedd, oedd Chwarel Gorseddau. Saif i'r gogledd-ddwyrain o Lyn Cwmystradllyn. Bu rhywfaint o weithio yma tua dechrau'r 19g, cyn ehangu'r gwaith ar raddfa fawr yn 1855, gyda'r buddsoddiad yn cynnwys adeiladu'r felin lechi enfawr yn Ynys y Pandy a rheilffordd i Borthmadog. Roedd 200 o weithwyr yno yn 1859, ond ychydig oedd y cynnyrch, gan gyrraedd uchafswm o 2,148 tunnell yn 1861. Caeodd yn 1867.
Llyfryddiaeth
- Alun John Richards, A Gazetteer of the Welsh Slate Industry (Gwasg Carreg Gwalch, 1991)
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.