Un o ranbarthau Ffrainc sy'n gorwedd yng nghanolbarth y wlad yw Centre-Val de Loire. Mae'n ffinio â rhanbarthau Limousin, Poitou-Charentes, Pays de la Loire, Basse-Normandie, Haute-Normandie, rhanbarth Paris, a Franche-Comté. Mae ganddo boblogaeth o tua 2.5 miliwn o bobl. Orléans yw'r brifddinas weinyddol, er mai Tours yw'r ddinas fwyaf o ran poblogaeth.
Math | rhanbarthau Ffrainc |
---|---|
Prifddinas | Orléans |
Poblogaeth | 2,573,303 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | François Bonneau |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Western defense and security zone |
Sir | Ffrainc Fetropolitaidd |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 39,151 km² |
Yn ffinio gyda | Île-de-France, Pays de la Loire, Normandi, Auvergne-Rhône-Alpes, Nouvelle-Aquitaine, Bourgogne-Franche-Comté, Auvergne |
Cyfesurynnau | 47.5°N 1.75°E |
FR-CVL | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Regional Council of Centre-Val de Loire |
Pennaeth y Llywodraeth | François Bonneau |
Geirdarddiad
Fel llawer o enwau gwneud (neu fodern) yn Ffrainc, fe'i crewyd gan y Llywodraeth drwy ddod a nifer o ranbarthau llai at ei gilydd. Dewisiwyd yr enw "Centre" oherwydd fod yr ardal yng nghalon ieithyddol yr hen wlad. Cynigiwyd ei newid gan ei fod yn enw mor ddiddychymyg, ac nad oedd yn union yn y canol, a chynigiwyd: Cœur de Loire (Calon y Loire). Ar 17 Ionawr 2015, yn sgil rhai newidiadau i'r rhanbarthau Ffrengig, newidiwyd yr enw i "Centre-Val de Loire".[1] Dewisiwyd yr enw gan fod yr enw Val de Loire yn creu delweddau positif o ddyffryn ffrwythlon a'i ffordd araf o fyw ynghyd a'i dywyd mwyn ac, wrth gwrs, gan ei fod yn atyniad twristaidd.
Départements
Rhennir Centre yn chwech département:
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.