Cedor
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Blew sy'n tyfu o amgylch organau cenhedlu oedolion yw'r gedor. Er fod blew mân yn bresennol yn ystod plentyndod, yn ystod glasoed mae'r gedor yn cychwyn tyfu.
Mewn merched, ymddengys blew cedor ar hyd ymylon y gweflau mwyaf (labia majora) yn gytaf fel arfer, gan ledaenu dros y cnwc Gwener yn y ddwy flynedd a ganlyn. Wedi 2-3 mlynedd o lasoed, (a thua'r un amser a chychwyn mislifiad yn y rhan fwyaf o laslancesi) mae siâp trionglog pendant i'r gedor. Yn y ddwy flynedd ar ôl hynny, mae'r blew yn tyfu ar du fewn y morddwydydd hefyd, ac weithiau mewn llinell tuag at y botwm bol yn ogystal.
Mewn bechgyn, ymddengys y gedor yn gyntaf fel blew mân ar y ceillgwd neu wrth waelod y pidyn. O fewn blwyddyn, mae yna flew o gwmpas gwaelod y pidyn. O fewn 3-4 mlynedd, mae'r blew yn gorchuddio'r ardal gyfagos, ac yn dod yn fwy trwchus a thywyll. Wedi oddeutu 5 mlynedd o lasoed, mae'r blew yn ymestyn i du fewn y morddwydydd, ac i fynny tua'r botwm bol yn ogystal.
Ymddengys blewiach tebyg yng ngheseiliau merched a bechgyn hefyd. Tua diwedd glasoed glaslanciau, mae blew yn cychwyn tyfu ar y frest, yr wyneb a'r cefn.
Gwyddys mai swyddogaeth esblygol y gedor, a blew yn gyffredinol yw i amddiffyn y corff rhag crafiadau a chosi poenus.