ymerawdwr Rhufeinig From Wikipedia, the free encyclopedia
Marcus Aurelius Antoninus Basianus (4 Ebrill 186 – 8 Ebrill 217), mwy adnabyddus fel Caracalla, oedd Ymerawdwr Rhufain o 211 hyd ei farwolaeth. Daw'r enw Caracalla o "caracallus", math o ddilledyn, efallai clogyn, a wisgai'r ymerawdwr yn gyson.
Caracalla | |
---|---|
Ganwyd | Lucius Septimius Bassianus 4 Ebrill 188 Lugdunum |
Bu farw | 8 Ebrill 217 Haran |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd, teyrn |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Tad | Septimius Severus |
Mam | Julia Domna |
Priod | Fulvia Plautilla |
Partner | Julia Soaemias, Julia Avita Mamaea |
Plant | Aurelia Antonina, Heliogabalus, Alexander Severus |
Llinach | Severan dynasty |
Ganed Caracalla yn Lugdunum, Lyon yn Ffrainc heddiw, yn fab i Septimius Severus oedd ar y pryd yn rhaglaw talaith Gallia Lugdunensis. Pan ddaeth ei dad yn ymerawdwr cafodd Caracalla y teitl "Cesar" pan oedd yn saith oed. Yn 198 enwyd wf yn "Augustus", ac felly'n gyd-ymerawdwr a'i dad. Yn 209 enwyd ei frawd Geta yn gyd-ymerawdwr hefyd. I gryfhau ei sefyllfa, gorfododd ei dad Caracalla i briodi Plautina, Plautianus, pennaeth Gard y Praetoriwm.
Roedd y berthynas rhwng Caracalla a Geta yn ddrwg, a gwaethygodd ymhellach pan enwyd y ddau yn gyd-olynwyr i'w tad pan fu ef farw ar 4 Chwefror 211. Llofruddiwyd Geta gan Caracalla yn 212. Dywedir i tua 20,000 o bobl oedd yn gwybod mai'r ymerawdwr yn gyfrifol am y llofruddiaeth gael ei lladd. Gadwodd Caracalla ddinas Rhufain i fynd ar ymgyrchoedd milwrol, ac ni ddychwelodd tra bu byw.
Aeth Caracalla i Germania, lle bu'n brwydro'n llwyddiannus yn erbyn rhai o'r llwythi Almaenaidd. Yn ddiweddarach bu'n ymladd yn y dwyrain. Ar ymweliad a Groeg daeth yn edmygydd mawr o Alecsander Fawr a phenderfynodd geisio ei efelychu. Yn 215 aeth i Alexandria i ymweld a bedd ei eilun, ond wedi cyhoeddi dychan ynglŷn â llofruddiaeth Geta, dinistriwyd llawer o'r ddinas a lladdwyd miloedd o'r dinaswyr gan filwyr Caracalla. Yna aeth i ryfela yn erbyn y Parthiaid gyda chryn lwyddiant.
Er gwaethaf ei lwyddiant milwrol yr oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn casau Caracalla oherwydd ei greulondeb, a chododd cynllwyn ei ei erbyn, gyda pennaeth y Praetoriaid, Macrinus, yn ei arwain. Llofruddiwyd Caracalla pan oedd ar ei ffordd i ddinas Carrhae yn Mesopotamia. Daeth Macrinus yn ymerawdwr yn ei le am gyfnod. Mae Baddonau Caracalla a adeiladwyd ganddo yn Rhufain yn parhau mewn bodolaeth.
Rhagflaenydd: Septimius Severus |
Ymerawdwr Rhufain 198 – 8 Ebrill 217 gyda Geta 209 – 19 Rhagfyr 211 |
Olynydd: Macrinus |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.