Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfuniad o lythrennau a rhifau a ddefnyddir mewn sawl gwlad i ddynodi cyfeiriad post, gan amlaf trwy ei roi ar ddiwedd cyfeiriad unigol ar amlen, yw côd post (côd zip yn yr Unol Daleithiau). Mae ei fanyldeb yn amrywio. Mewn rhai gwledydd, fel Tiwnisia er enghraifft, dim ond dinas, tref neu bentref a ddynodir gan gôd post, ond mewn gwledydd eraill, fel Cymru er enghraifft, mae'r côd yn fwy manwl ac yn dynodi stryd neu ardal.
Yng Nghymru a gwledydd eraill y DU, mae codau post yn cynnwys tair elfen. Yn y gyntaf ceir llythyren neu ddwy i ddynodi'r canolfan sortio ar gyfer yr ardal, yn ail ceir rhif sy'n dynodi'r ddinas, tref neu bentref, ac yn drydydd, ar ôl bwlch, ceir cyfuniad o rif(au) a llythrennau sy'n dynodi ardal drefol neu stryd a.y.y.b. SY23 3HH, er enghraifft, yw côd post Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda'r SY yn sefyll am Amwythig (Shrewsbury=SY) a 23 yn dynodi Aberystwyth.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.