From Wikipedia, the free encyclopedia
Maestref o ddinas Abertawe yw Brynmill. Fe'i lleolir tua dwy filltir (3.2 km) i'r gorllewin o ganol y ddinas. Ardal breswyl ddosbarth canol yw e'n bennaf, ac gan fod Prifysgol Abertawe yn agos iawn mae nifer o fyfyrwyr yn rhenti tai yno yn ystod y tymor.
Math | maestref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.61°N 3.97°W |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Julie James (Llafur) |
AS/au | Geraint Davies (Llafur) |
Ffinir Brynmill gan Fae Abertawe i'r de, Lôn Brynmill i'r gorllewin, Rhodfa Glanbrydan i'r gogledd, Heol Bryn-y-Mor i'r gogledd-ddwyrain, a Heol Guildhall i'r de-ddwyrain.
Lleolir Brynmill ar dir serth ac mae nifer o'r adeiladau wedi'u codi ar lethrau. O ganlyniad, gall ymsuddiant fod yn broblem yn yr ardal hon. Mae prisiau tai yn Brynmill o amgylch y cyfartaledd cenedlaethol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Julie James (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Geraint Davies (Llafur).[1][2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.