From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r term brynfa (Saesneg: Hill Station) yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio tref, sy'n gymharol uchel i fyny, ar isgyfandir India. Mae'r enw wedi cael ei ddefnyddio weithiau ar gyfer trefi bach eraill ym mryniau Asia yn y cyfnod trefedigaethol fel dihangfeydd o wres yr haf. Yn India ei hun ceir y mwyafrif o'r brynfeydd rhwng 1000 a 2500 medr i fyny (3,500 - 7,500 troedfedd). Sefydlwyd tua 50 ohonynt yn ystod y Raj, rhai ohonynt gan y fyddin Brydeinig, eraill gan dywysogion Indiaidd.
Math | tref |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwasanethai rhai brynfeydd fel "prifddinasoedd haf" i'w taleithiau Indiaidd, i'r gwladwriaethau tywysogaidd neu, yn achos Shimla, i'r India Brydeinig ei hun. Ers annibyniaeth India maent wedi datblygu'n ganolfannau ymwelwyr haf i ddianc rhag gwres y gwastadiroedd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.