From Wikipedia, the free encyclopedia
Plaid wleidyddol Brydeinig, adain dde eithafol yw Ffrynt Cenedlaethol Prydain (Saesneg: British National Front neu'r National Front) sy'n arddel cenedlaetholdeb Prydeinig ac sydd â'i gwreiddiau gwleidyddiol yn yr 1970au a'r 1980au.[1] Yn gyffredinol, fe'i hystyrir yn grŵp hiliol, ac mae gwasanaeth carchar Prydain a gwasanaethau'r heddlu yn gwahardd eu gweithwyr rhag bod yn aelod o'r Ffrynt Cenedlaethol (yn ogystal â'r PGP a Combat 18).[2] Dywed y Ffrynt Cenedlaethol nad plaid Natsïaidd ydyw, fel yr ystyria rhai pobl ac mai mudiad democratiaidd wleidyddiol ydyw. Dywedant eu bod yn credu mewn cyfiawnder cymdeithasol, rhyddfrydiaeth cenedlaethol a galwant am Fesur Seneddol o iawnderau i bawb[3] Dywedant fod y FfC yn gwrthwynebu imperialaeth economaidd a diwylliannol ac y dylai cenhedloedd fod yn rhydd i benderfynu eu cyfundrefnau gwleidyddiol, economaidd a diwylliannol eu hun.'[4] Serch hynny, maent yn parhau i gael eu hystyried fel plaid eithafol ac yn aml gwelir gwrthwynebiad pan sefydlir cangen o'r Ffrynt Cenedlaethol mewn ardal benodol.[5] Gwelir gwrthwynebiad hefyd i orymdeithiau'r Ffrynt Cenedlaethol.[6]
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | British fascism, neo-fascism, goruchafiaeth y gwynion, goruchafiaeth ethnig |
Dechrau/Sefydlu | 1967 |
Rhagflaenwyd gan | British National Party, Greater Britain Movement |
Olynwyd gan | British Democratic Party |
Rhagflaenydd | League of Empire Loyalists |
Pencadlys | Kingston upon Hull |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://nationalfront.info/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd mudiad undod y dde eithafol wedi tyfu yn ystod yr 1960au fel roedd grwpiau yn gweithio'n fwy agos at ei gilydd. Darparwyd ysgogiad gan etholiad cyffredinol 1966 pan orchfygwyd y Blaid Geidwadol a dadleuodd A. K. Chesterton, cefnder y nofelydd G. K. Chesterton a rheolwr o Gynghrair y Teyrngarwyr Imperialaidd, y byddai plaid wladgarol a hiliol wedi ennill yr etholiad.[7] Yn ddiweddarach, siaradodd Chesterton â Phlaid Genedlaethol Prydain yn y 1960au - a oedd wedi trafod ffordd posibl â'r Blaid Ddemocratiaethol Genedlaethol newydd. Cytunodd rhan o Gymdeithas y Gadwedigaeth Hiliol, a reolwyd gan Robin Beauclair, hefyd i gymryd rhan ac felly dechreuodd y FfC ar y 7fed o fis Chwefror, 1967.[8]
Ei bwrpas oedd gwrthwynebu mewnfudiaeth a pholisïau amlddiwyllant Prydain, a chytundebau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig neu Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd fel newidiadau am gytundebau dwyochrog negodedig rhwng cenhedloedd. Gwaharddodd y grŵp newydd Natsiaid-newydd rhag ymuno â'r blaid, ond ymunodd aeoladau o Fudiad Natsiaid-newydd Prydain Fawr megis John Tyndall fel aelodau unigol.[9] Achosodd hyn i amryw aelodau ymddiswyddo mewn protest, Rodney Legg yn arbennig.
Tyfodd y Ffrynt Cenedlaethol yn ystod y 1970au ac yr oedd cymaint â 20,000 o aelodau ganddynt yn 1974. Gwnaeth e'n neilltuol iawn yn yr etholiadau lleol gan dderbyn 44% o'r bleidlais yn Deptford, Llundain (â grŵp sgyren), gan bron â churo ymgeisydd Llafur, a enillodd yn unig oherwydd plaidlais yr ysgyren. Daeth yn drydydd mewn tair is-etholiadau seneddol. Mewn un o'r enhreifftiau hwn yn unig- is-etholiad De Newham, 1974 (lle aelod blaenorol o Gynghrair Gomiwynydd Ifainc oedd yr ymgeisydd, Mike Lobb.[10])- curodd y FFC y Ceidwadwyr
Roedd ei sylfaen etholiadol yn cynnwys llawer o weithwyr a phobl hunangyflogedig a oedd yn erbyn gystadleuaeth mewnfudiaeth yn y farchnad neu olwg y mewnfudwyr. Hefyd tynnodd y blaid ychydig o Geidwadwyr dadrithiedig a roddodd llawer o arbenigaeth a pharchedigaeth angenrheidiol. Daeth y Ceidwadwyr yn arbennig o grŵp Clwb Dydd Llun Ceidwadol yn y Blaid Geidwadol a oedd ar sail adwaith gelyniaethus i araith "Wind of Change" ("Gwynt o Newid") Harold Macmillan.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.