Bisged
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynnyrch bychan wedi'i pobi yw bisged (lluosog: bisgedi); mae union ystyr y gair yn amrywio ar draws y byd. Daw'r gair yn wreiddiol o'r Lladin, trwy Ffrangeg canol ac mae'n golygu "wedi ei goginio ddwywaith". Roedd hard tack y forlu Brydeinig yn un o'r bisgedi cynharaf, a phasiwyd hyn ymlaen trwy ddiwylliant Americanaidd. Cynhyrchwyd bisgedi Hard Tack drwy'r 19eg ganrif.
![]() | |
Math | bisged, byrbryd |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1784 |
Yn cynnwys | blawd gwenith, siwgr, dŵr, llaeth, halen, baking powder |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bisgedi Prydeinig

Cynnyrch fflat a chaled wedi ei bobi yw bisged, a gall fod yn felys neu'n sawrus. Gall gael ei alw'n "cwci" neu'n "cracyr" yng Ngogledd America. Mae'r term bisged hefyd yn cyfeirio at fisged fel brechdan, sydd â haenen o eisin neu hufen rhwng dau fisged. Ym Mhrydain, defnyddir y gair cwci i gyfeiro at math arbennig o fisged yn unig, sef un meddalach megis "cwci sglodion siocled".
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.