Mae Attignéville wedi'i leoli yn nyffryn yr afon Vair, mae'r gymuned yn sefyll 13km o Neufchâteau a 61km o Épinal. Mae’n gymuned wledig lle mae’r tir yn cael ei rannu rhwng amlgnydio a choedwigaeth.
Mae’r afon Vair yn rhedeg ar ochr deheuol y gymuned gan ei rannu oddi wrth y cymunedau cyfagos Houéville a Barville.
Cerflun y Forwyn Trugaredd, Y Forwyn Fair yn crudo corff marw Crist. Mae’r cerflun yn dyddio o’r 16 ganrif ac wedi ei gofrestru fel heneb gan weinyddiaeth treftadaeth Ffrainc.
Allorlun y Croeshoeliad a'r Apostolion. Wedi ei ddyddio 1529, mae hefyd wedi ei gofrestru fel heneb gan weinyddiaeth treftadaeth Ffrainc
Cerflun y Forwyn a'r Plentyn, cerflun carreg amryliw o'r unfed ganrif ar bymtheg. Ar y gofrestr o henebion hanesyddol ers 2008
Cerflun Sant Évêque, cerflun carreg amryliw o'r unfed ganrif ar bymtheg. Wedi ei wisgo mewn tiwnig a chlogyn hir mae’r sant yn dal llyfr agored mewn un llaw ac fe’i harferai gario ffôn yn y llaw arall. Ar y rhestr o Henebion ers 1980
Cerflun Sant Lambert. Cerflun carreg amryliw o'r unfed ganrif ar bymtheg. Ar y gwaelod mae arysgrif: ". Sancte Lamberte ora Nobis pro" "Saint Lambert Gweddïwch i ni". Mae'r cerflun ar y rhestr o'r Henebion ers 1980
Croes y fynwent ddyddiedig 1684 wedi ei gofrestru fel heneb hanesyddol ers 1909
Nifer o olchdai
Ffynnon cafn.
Cerflun y Forwyn Trugaredd
Allorlun y Croeshoeliad a'r Apostolion
Cerflun y Forwyn a'r Plentyn
Cerflun Sant Evêque
Cerflun Sant Lambert
Croes y fynwent
Charles Nicolas o Hennezel de Valleroy (1747-1833), Cadfridog ym myddin y Weriniaeth
Joseph Pérille o Boischâteau, yn cael ei adnabod fel Pérille-Lacroix (1804-1883 - Paris), Llywydd y Cwmni gwinwyddaeth Meurthe-et-Moselle, perchennog y castell a'r winllan yn Saint-Max a meistr haearn yn Attignéville
Maurice Bastide du Lud (1870-1960), mab Pérille-Lacroix, ysgythrwr a cherflunydd.