From Wikipedia, the free encyclopedia
Testun Sansgrit yw'r Asokavadana (Sansgrit: अशॊकवदन 'Buchedd neu Hanes Asoka') sy'n rhoi hanes chwedlonol Asoka, ymerawdwr Ymerodraeth y Maurya yn India o 268 CC hyd 231 CC sydd â lle pwysig yn hanes Bwdhaeth. Ysgrifennwyd y testun yn y 3g OC yn India gan awdur anhysbys.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Gwlad | Maurya empire |
Iaith | Sansgrit |
Cyfres | Divyavadana |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd ymerodraeth Asoka yn ymestyn o’r hyn sy’n awr yn Affganistan hyd Bengal ac i’r de cyn belled a Mysore. Wedi dod i’r orsedd, bu’n ryfelwr llywyddiannus dros ben, ond daeth dan ddylanwad Bwdhaeth ac ymwrthododd a rhyfel. Yn 250 CC, cynhaliwyd Trydydd Cyngor Bwdhaeth dan nawdd Asoka. Yn dilyn y cyngor, gyrrodd Asoka fynachod i wahanol deyrnasoedd, yn cynnwys Bactria, Nepal, Myanmar, Gwlad Tai a Sri Lanca, ac efallai cyn belled ag Alexandria yn yr Aifft, Antioch ac Athen.
Tyfodd cylch o chwedlau am Asoka a gafodd ddylanwad mawr yn y gwledydd Bwdhaidd. Ceir testunau cynnar o'r chwedlau hyn yn yr ieithoedd Pali a Sansgrit a chyfieithwyd rhai ohonynt i'r Tsieineeg gan ysgolheigion Bwdhaidd o Tsieina yn nes ymlaen hefyd. Y testun mwyaf dylanwadol ac adnabyddus yw'r Asokavadana. Mae'n ymgorffori nifer o'r chwedlau poblogaidd am yr ymerawdwr ac yn dilyn ei yrfa o'i enedigaeth hyd ei droi'n Fwdhydd ar ôl syrffedu ar ryfela a gorffen ei ddyddiau yn frenin doeth a heddychlon a threuliodd ei amser yn codi stupas sanctaidd a mynachlogydd Bwdhaidd niferus ac a gysegrodd ei hun i gyflawni gweithredoedd da.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.