From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd yw Artur Mas i Gavarró (ganwyd 31 Ionawr 1956 ym Marcelona, Catalwnia) oedd yn Arlywydd Catalunya rhwng 27 Rhagfyr 2010 a 9 Ionawr 2015. Mas oedd y 129fed Arlywydd y Generalitat; ef hefyd yw arweinydd y blaid ryddfrydol, genedlaetholgar 'y Blaid Ddemocrataidd dros Gydgyfeirio Barcelona' a chadeirydd y glymblaid Convergència i Unió.[1] Fe'i olynwyd fel Arlywydd gan Carles Puigdemont.[2]
Artur Mas i Gavarró | |
---|---|
Arlywydd Catalunya Arlywydd ''Generalitat'' Catalwnia | |
Yn ei swydd 27 Rhagfyr 2010 – 9 Ionawr 2016 | |
Vice President | Joana Ortega i Alemany |
Rhagflaenwyd gan | José Montilla i Aguilera |
Dilynwyd gan | Carles Puigdemont, Maer Girona |
Rhestr o Arlywyddion Catalwnia | |
Yn ei swydd 19 Ionawr 2001 – 20 Rhagfyr 2003 | |
Arlywydd | Jordi Pujol i Soley |
Rhagflaenwyd gan | dim |
Dilynwyd gan | Josep-Lluís Carod-Rovira |
Arweinydd yr Wrthblaid yn Llywodraeth Catalwnia | |
Yn ei swydd 27 Mai 2004 – 23 Rhagfyr 2010 | |
Rhagflaenwyd gan | Pasqual Maragall i Mira (Daeth y swydd i ben rhwng 17 Rhagfyr 2003 a 27 Mai 2004) |
Dilynwyd gan | Joaquim Nadal i Farreras |
Y Gweinidog dros Economi ac Arian y Generalitat de Catalunya | |
Yn ei swydd 30 Gorffennaf 1997 – 17 Ionawr 2001 | |
Arlywydd | Jordi Pujol i Soley |
Rhagflaenwyd gan | Macià Alavedra i Moner |
Dilynwyd gan | Francesc Homs i Ferret |
Y Gweinidog dros Tref a Gwlad | |
Yn ei swydd 15 Mehefin 1995 – 30 Gorffennaf 1997 | |
Arlywydd | Jordi Pujol i Soley |
Rhagflaenwyd gan | Jaume Roma i Rodríguez |
Dilynwyd gan | Pere Macias |
Manylion personol | |
Ganwyd | Artur Mas i Gavarró 31 Ionawr 1956 Barcelona, Catalonia, Spain |
Plaid wleidyddol | Convergència i Unió (Y Blaid Ddemocrataidd dros Gydgyfeirio Barcelona Convergència Democràtica de Catalunya (CDC)) |
Priod | Helena Rakosnik |
Plant | Patricia Albert Artur |
Alma mater | Prifysgol Barcelona |
Galwedigaeth | Economegydd |
Llofnod |
Economegydd yw Mas a raddiodd ym Mhrifysgol Barcelona; mae'n rhugl mewn Catalaneg, Sbaeneg, Ffrangeg a Saesneg. Ystyrir ei eidioleg wleidyddol yn rhyddfrydol, o safbwynt economeg ac mae'n Ewropead cryf iawn; mae hefyd yn credu'n gryf yn annibyniaeth ei wlad. Mae gweddill ei agenda'n un eithaf cymedrol e.e. hawliau hoywon ac erthylu.[3]
Yn 2010, am y tro cyntaf, cyhoeddodd y byddai'n pleidleisio mewn unrhyw refferendwm dros annibyniaeth a daeth y thema hon o sofraniaeth yn flaenllaw iawn yn ei waith.[4][5]
Ganwyd Mas ym Marcelona yn un o bedwar plentyn: dau fachgen a dwy ferch; roedd ei rieni o deuluoedd diwydiannol ariannog, gyda theulu ei fam yn y byd tecstiliau'n hanu o Sabadell a'i dad mewn diwydiannau metaleg o Poblenou. Astudiodd yn ysgol uwchradd Lycée Français de Barcelone ym Marcelona, gyda'r Ffrangeg yn gyfrwng y dysgu ac yn yr 'Ysgol Ewropeaidd' leol. Yn 1982, wedi cyfnod ym Mhrifysgol y brifddinas yn astudio economeg a busnes, priododd Helena Rakòsnik ac mae ganddynt dri o blant: Patricia, Albert ac Arthur.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.