Artaxerxes I, brenin Persia

From Wikipedia, the free encyclopedia

Artaxerxes I, brenin Persia
Remove ads

Brenin Ymerodraeth Persia rhwng 465 CC a 424 CC oedd Artaxerxes I (Hen Berseg: Artaxšacā, Perseg: اردشیر یکم (Ardeshir), Groeg: Ἀρταξέρξης; bu farw 424 CC).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Remove ads

Roedd yn fab i Xerxes I, brenin Persia, ac olynodd ef ar yr orsedd yn 465 CC. Ceisiodd wanhau Athen trwy ariannu ei gelynion yng Ngwlad Groeg. Hyn a achosodd i'r Atheniaid symud trysorfa Cynghrair Delos o ynys Delos i'r Acropolis yn Athen. Yn 449 CC, gwnaed cytundeb heddwch rhwng Athen, Argos a Persia.

Mae Artaxerxes yn ymddangos yn Llyfr Ezra yn y Beibl, lle mae'n rhoi llywodraeth ar yr Iddewon i Ezra. Gadawodd Ezra ddinas Babilon yn 457 CC a theithio i ddinas Jeriwsalem.

Olynwyd ef gan ei fab, Xerxes II.

Rhagflaenydd:
Xerxes I
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia
464 CC424 CC
Olynydd:
Xerxes II
Rhagflaenydd:
Xerxes I
Brenin yr Aifft
464 CC424 CC
Olynydd:
Xerxes II
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads