Artaxerxes I, brenin Persia

From Wikipedia, the free encyclopedia

Artaxerxes I, brenin Persia

Brenin Ymerodraeth Persia rhwng 465 CC a 424 CC oedd Artaxerxes I (Hen Berseg: Artaxšacā, Perseg: اردشیر یکم (Ardeshir), Groeg: Ἀρταξέρξης; bu farw 424 CC).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Artaxerxes I, brenin Persia
Thumb
Ganwyd5 g CC 
Bu farw424 CC 
Susa 
Galwedigaethbrenin neu frenhines 
SwyddUwch Frenin 
RhagflaenyddXerxes I, brenin Persia 
TadXerxes I, brenin Persia 
MamAmestris 
PriodDamaspia 
PlantSogdianus, brenin Persia, Xerxes II, brenin Persia, Darius II, brenin Persia, Parysatis, Arsites 
LlinachBrenhinllyn yr Achaemenid 
Cau

Roedd yn fab i Xerxes I, brenin Persia, ac olynodd ef ar yr orsedd yn 465 CC. Ceisiodd wanhau Athen trwy ariannu ei gelynion yng Ngwlad Groeg. Hyn a achosodd i'r Atheniaid symud trysorfa Cynghrair Delos o ynys Delos i'r Acropolis yn Athen. Yn 449 CC, gwnaed cytundeb heddwch rhwng Athen, Argos a Persia.

Mae Artaxerxes yn ymddangos yn Llyfr Ezra yn y Beibl, lle mae'n rhoi llywodraeth ar yr Iddewon i Ezra. Gadawodd Ezra ddinas Babilon yn 457 CC a theithio i ddinas Jeriwsalem.

Olynwyd ef gan ei fab, Xerxes II.

Rhagflaenydd:
Xerxes I
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia
464 CC424 CC
Olynydd:
Xerxes II
Rhagflaenydd:
Xerxes I
Brenin yr Aifft
464 CC424 CC
Olynydd:
Xerxes II
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.