Etholaeth Senedd Cymru ydy Arfon sy'n dwyn enw ardal hanesyddol Arfon. Mae'n ethol un aelod drwy ddull cyntaf heibio'r postyn. Mae hefyd yn rhan o Ranbarth Gogledd Cymru, sydd yn ethol pedwar aelod ychwanegol er mwyn cael cynrichiolaeth mwy cyfrannol ar gyfer y rhanbarth. Cafod yr etholaeth ei chreu ar gyfer etholiad 2007. Yr aelod dros yr etholaeth yn y Senedd yw Siân Gwenllian (Plaid Cymru).

Mae hon yn erthygl am yr etholaeth newydd. Am y cantref ac ardal hanesyddol, gweler Arfon.
Rhagor o wybodaeth Etholaeth Senedd Cymru, Lleoliad Arfon o fewn Gogledd Cymru a Chymru ...
Arfon
Etholaeth Senedd Cymru
Lleoliad Arfon o fewn Gogledd Cymru a Chymru
Math:Senedd Cymru
RhanbarthGogledd Cymru
Creu:2007
AS presennol:Siân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS (DU) presennol:Hywel Williams (Plaid Cymru)
Cau

Ffiniau

Mae gan yr etholaeth Senedd Cymru Arfon yr un ffiniau ac etholaeth seneddol o'r un enw, sydd wedi cael ei ddefnyddio ers etholiad cyffredinol 2010. Cafodd etholaeth Arfon ei chreu drwy gyfunno ardaloedd Caernarfon a Gwyfrai o'r hen etholaeth Caernarfon, ac ardaloedd Bangor a Dyffryn Ogwen o hen etholaeth Conwy.

Creuwyd rhanbarth Gogledd Cymru yn ystod yr etholiad cynulliad cyntaf yn 1999, ac ers 2007 mae hi wedi cynnwys etholaethau Aberconwy, Alun a Glannau Dyfrwy, Arfon, De Clwyd, Dyffryn Clwyd, Gorllewin Clwyd, Delyn, Wrecsam ac Ynys Môn.

Hanes

Er fod yr etholaeth seneddol yn llawer mwy ymylol, gellir ystyried yr etholaeth Senedd yn sedd saff, i Blaid Cymru. Yn yr etholiad diwethaf, 2016, roedd gan Blaid Cymru mwyafrif o 20.8% dros y Blaid Lafur.

Cyfartaledd canlyniadau 5 etholiad: Plaid Cymru - 54.6%, Llafur - 29%, Ceidwadwyr - 10.1%, Dem Rhydd - 4.9%

Pleidleisio

Mewn etholiadau Senedd, mae gan bob pleidleisiwr ddwy bleidlais: un ar gyfer ymgeisydd i fod yn Aelod o'r Senedd dros yr etholaeth, a'r llall ar gyfer rhestr pleidiol o ymgeiswyr rhanbarthol. Defnyddir Dull d'Hondt ar gyfer dyrannu seddi rhanbarthol, gan ystyried canlyniadau'r etholaethau yn y rhanbarth.

Aelodau o'r Cynulliad

Rhagor o wybodaeth Etholiad, Aelod ...
Cau

Ym Mai 2020 newidiwyd yr enw i 'Senedd Cymru'.

Aelodau o'r Senedd

Rhagor o wybodaeth Etholiad, Aelod ...
EtholiadAelodPlaidLlun
2021Siân GwenllianPlaid Cymru Thumb
Cau

Etholiadau

Canlyniadau Etholiadau

Rhagor o wybodaeth Etholiad Senedd 2021, Plaid ...
Etholiad Senedd 2021: Arfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Sian Gwenllian 13,760 63.27 +8.44
Llafur Iwan Wyn Jones 5,108 23.49 -10.52
Ceidwadwyr Tony Thomas 1,806 9.30 +0.03
Democratiaid Rhyddfrydol Callum Davies 642 2.95 +0.07
Reform UK Andrew Haigh 350 1.61 -
Annibynnol Martin Bristow 82 0.38 -
Mwyafrif 8,652 39.78 +8.44
Y nifer a bleidleisiodd 21,748 50.92 0.00
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd +9.48
Cau
Rhagor o wybodaeth Etholiad Cynulliad 2016, Plaid ...
Etholiad Cynulliad 2016: Arfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Siân Gwenllian 10,962 54.8 -1.9
Llafur Siôn Jones 6,800 34.0 +7.8
Ceidwadwyr Martin Peet 1,655 8.3 -4.2
Democratiaid Rhyddfrydol Sara Lloyd Williams 577 2.9 -1.6
Mwyafrif 4,162 20.8 -9.7
Y nifer a bleidleisiodd 19,994 50.9 +7.5
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd 4.9
Cau


Rhagor o wybodaeth Etholiad 2011, Plaid ...
Etholiad 2011: Arfon[1]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Alun Ffred Jones 10,024 56.7 +4.3
Llafur Christina Elizabeth Rees 4,630 26.2 −0.6
Ceidwadwyr Aled Davies 2,209 12.5 +3.0
Democratiaid Rhyddfrydol Rhys David Jones 801 4.5 −2.8
Mwyafrif 5,394 30.5 +4.9
Y nifer a bleidleisiodd 17,664 43.4 −5.7
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd +2.4
Cau


Rhagor o wybodaeth Etholiad 2007, Plaid ...
Etholiad 2007: Arfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Alun Ffred Jones 10,260 52.4 +3.11
Llafur Martin Eaglestone 5,242 26.8 -3.81
Ceidwadwyr Gerry Frobisher 1,858 9.5 -3.51
Democratiaid Rhyddfrydol Mel ab Owain 1,424 7.5 +0.21
Plaid Annibyniaeth y DU Elwyn Williams 789 4.0 +4.01
Mwyafrif 5,018 25.6 +6.91
Y nifer a bleidleisiodd 19,573 49.1 +4.11
Etholaeth newydd: Plaid Cymru yn ennill. Gogwydd +3.51
Cau

1Amcanol yn Unig

Gweler Hefyd

Cyfeiriadau

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.