Remove ads
newyddiadurwr ac awdur From Wikipedia, the free encyclopedia
Newyddiaduwraig ac awdur o'r Unol Daleithiau yw Elizabeth Anne Applebaum (ganed Washington D.C., 25 Gorffennaf 1964). Mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar effaith Comiwnyddiaeth ar gymdeithas yn ystod cyfnod cynnar wedi cwymp comiwnyddiaeth yn 1989 a'r cyfnod wedyn. Mae hefyd yn astudio sut mae mudiadau a llywodraethau unbeniaethol yn gallu meddiannu a chipio'r awenau mewn cymdeithasau ryddfrydig, democrataidd a sifig. Mae hi'n Professor of Practice cymrodol yn y London School of Economics, lle mae'n rhedeg Arena, prosiect ar bropaganda a dad-wybodaeth. Mae wedi bod yn olygydd cylchgronau The Economist a The Spectator ac yn aelod o fwrdd golygydddol papur y Washington Post (2002-2006)
Anne Applebaum | |
---|---|
Ganwyd | Anne Elizabeth Applebaum 25 Gorffennaf 1964 Washington |
Man preswyl | Washington, Warsaw, Llundain |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Gwlad Pwyl |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd, newyddiadurwr, colofnydd, llenor, awdur ffeithiol |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Gulag: A History, Red Famine: Stalin’s War on Ukraine |
Priod | Radosław Sikorski |
Gwobr/au | Gwobr Pulitzer am Ysgrifennu Ffeithiol, Cyffredinol, Ysgoloriaeth Marshall, Urdd y Dywysoges Olga, 3ydd Dosbarth, Berlin Prize, Officer's Cross of the Order of Merit of the Republic of Poland, Urdd Croes Terra Mariana, 3ydd Dosbarth, Cundill History Prize, Duff Cooper Prize, Lionel Gelber Prize, Duke of Westminster's Medal for Military Literature, Petőfi Prize, Gwobr Antonovych, Urdd y Dywysoges Olga, ail ddosbarth, Carl von Ossietzky Prize, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg |
Gwefan | https://www.anneapplebaum.com |
Astudiodd Hanes a Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Yale yn yr UDA gan raddio yn 1986. Enillodd ysgoloriaeth Marshall i astudio ymhellach yn y Ysgol Economeg Llundain lle enillodd MA mewn yn 1987 a Choleg Sant Antony, Prifysgol Rhydychen ac yna yn Warsaw, Gwlad Pwyl yn 1988 fel gohebydd i'r Economist mewn cyfnod o newidiadau anferthol wrth i'r Bloc Sofietaidd ddatgymalu.
Bu'n byw rhwng Llundain a Warsaw yn ystod y 1990au a bu'n golofnydd i bapur newydd y London Evening Standard ers sawl blwyddyn ac yn gyn-olygydd cylchgrawn y Spectator.
Dyfarnwyd llyfr cyntaf Applebaum, Between East and West (1994) wobr Adolph Bentinck yn 1996. Mae'r llyfr yn taflu cip-olwg ar y cwestiwn o newid hunaniaeth ac amgyffred beth yw hunaniaeth mewn ardaloedd a oedd wedi gweld sawl newid i'r ffiniau cenedlaethol ac ymerodraethol yn ystod bywydau nifer fawr o'i thrigolion. Cyhoeddwyd ei hail lyfr, Gulag: A Hstory, yn 2003 a dyfarnwyd iddi Wobr Pulitzer 2004 yng nghateogri llyfr ffeithiol cyffredinol.
Ganed Applebaum yn Washington D.C. mewn teulu Iddewig ryddfrydol. Mae'n siarad Saesneg, Ffrangeg, Pwyleg a Rwsieg. Priododd â Radek Sikorski, gwleidydd ac ysgrifennwr Pwyleg yn 1992 ac mae ganddynt ddau blentyn: Alexander a Tadeusz. Penodwyd ei gŵr yn Weinidog Amddiffyn Llywodraeth Gwlad Pwyl ar 31 Hydref 2005.
( Gulag: A History, Doubleday, 2003, 677 pages, ISBN 0-7679-0056-1; paperback, Bantam Dell, 2004, 736 pages, ISBN 1-4000-3409-4
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.