From Wikipedia, the free encyclopedia
Tsar Rwsia o 1801 tan 1825 a Brenin Gwlad Pwyl o 1815 tan 1825 oedd Alecsandr I Paflofich (Rwsieg Александр I Павлович) (12 / 23 Rhagfyr 1777, St Petersburg - 19 Tachwedd / 1 Rhagfyr 1825 Taganrog). Yn ystod hanner cyntaf ei deyrnasiad cyflwynodd nifer o ddiwygiadau rhyddfrydol, ond yn ddiweddarach trodd at bolisïau ceidwadol gan ddileu llawer o'i diwygiadau cynharach.
Alexander I, tsar Rwsia | |
---|---|
Ganwyd | 12 Rhagfyr 1777 (yn y Calendr Iwliaidd) St Petersburg |
Bu farw | 19 Tachwedd 1825 (yn y Calendr Iwliaidd) Taganrog |
Man preswyl | Palas Gaeaf |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | Emperor of all the Russias |
Tad | Pawl I |
Mam | Maria Feodorovna |
Priod | Elizabeth Alexeievna |
Partner | Maria Naryshkina |
Plant | Maria Aleksandrowna o Rwsia, Nikolai Lukash, Elizabeth Alexandrovna o Rwsia, Zenaida Narishkin, Sofya Naryshkina, Emmanuil Naryshkin, Mariya Parizhskaya, Wilhelmine Alexandrine Pauline Alexandrov, Gustaw Ehrenberg, Maria (?), Nikolay Isakov |
Llinach | Holstein-Gottorp-Romanow |
Gwobr/au | Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Marchog yn Urdd yr Ysbryd Glan, Marchog yn Urdd Sant Mihangel, Marchog Urdd y Cnu Aur, Marchog Uwch Groes Urdd Maria Theresa, Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky, Urdd yr Eryr Du, Urdd Sant Andreas, Urdd San Sior, 4ydd Dosbarth, Urdd Sant Stanislaus, Marchod Uwch Groes Urdd Milwrol Wiliam, Urdd yr Eryr Coch, radd 1af, Urdd Sant Ioan o Jerwsalem, Urdd yr Eryr Gwyn, Order of Saint Louis, Urdd y Gardas, Order of the Crown, Urdd Sant Hwbert, Urdd yr Hebog Gwyn, Urdd Ffyddlondeb, Urdd Brenhinol y Seraffim, Urdd yr Eliffant, Urdd y Cyfarchiad Sanctaidd, Order of Saint Januarius, Urdd Cystennin Sanctaidd Milwrol San Siôr, Knight Grand Cross of the Order of Saint Ferdinand and of Merit, Iron Cross 2nd Class, Commander of the Order of Military Virtue, Uwch Groes Sash y Tair Urdd, Medal For love for native land |
llofnod | |
Roedd Alexander yn fab i Archddug Pawl Petrovich (wedyn Tsar Pawl) a Maria Fedorovna, Sophia Dorothea o Württemberg. O'i blentyndod cynnar ymlaen, roedd Alexander yn degan mewn brwydr rhwng ei dad a'i fam-gu, Catrin Fawr. Roedd Catrin eisiau i'w ŵyr hynaf gael addysg rhyddfrydol, ac felly dysgodd ef egwyddorion rheswm a natur Rousseau gan y tiwtor a drefnodd hi iddo o'r Swistir, Frederic Caesar de Laharpe. Ar y llaw arall, cafodd ef ddylanwad ei dad Tsar Pawl a'i athro milwrol, Nikolay Saltykov, drwy ymweliadau wythnosol i Gatchina, lle cafodd e wybod am draddodion unbennaeth y tsariaid. Gwelir tensiynau ei blentyndod yn ei bersonoliaeth drwy gydol ei deyrnasiad yn ei bolisïau anwadal. Yn bymtheg oed, ym 1793, priododd dywysoges o'r Almaen, Louise o Baden (Elizaveta), oedd hefyd yn ifanc, 14 blwydd oed. Daeth marwolaeth ei fam-gu dair blynedd yn ddiweddarach (Tachwedd 1796) â'i dad i'r orsedd. Roedd teynrasiad ei dad Pawl yn ystormus. Ceisiodd gyflwyno diwygiadau yn wyneb gwrthwynebiad ei gynhorwyr closaf a'i fab. Daeth Alexander i rym mewn amgylchiadau anodd. Cafodd Pawl ei ddiorseddu a'i lofruddio mewn coup d'état ym mis Mawrth 1801, a gosodwyd Alexander yn ei le. Er iddo gefnogi'r coup, mae'n debyg nad oedd Alexander wedi bod eisiau i'w dad gael ei ladd, a pharodd amgylchiadau ei ddyrchafiad iddo ddrwgdyio y cynghorwyr brenhinol.
Rhagflaenydd: Pawl I |
Tsar Rwsia 12 / 23 Mawrth 1801 – 19 Tachwedd / 1 Rhagfyr 1825 |
Olynydd: Niclas I |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.