Alexander Borodin

From Wikipedia, the free encyclopedia

Alexander Borodin

Roedd Alexander Porfiryevich Borodin (Rwsieg: Александр Порфирьевич Бородин, Aleksandr Porfir'evič Borodin) (31 Hydref/12 Tachwedd 1833 – 15 Chwefror/27 Chwefror 1887) yn gyfansoddwr clasurol Rwsiaidd o dras Georgiaidd a aned yn St. Petersburg. Roedd yn athro cemeg a ddaliodd sawl swydd academaidd a swyddogol. Sefydlodd Ysgol Meddygon i ferched.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Alexander Borodin
Thumb
Ganwyd31 Hydref 1833 (yn y Calendr Iwliaidd) 
St Petersburg 
Bu farw15 Chwefror 1887 (yn y Calendr Iwliaidd) 
St Petersburg 
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia 
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr clasurol, cemegydd, pianydd, ffliwtydd, chwaraewr soddgrwth, meddyg, cyfansoddwr opera, cyfansoddwr 
Cyflogwr
  • Prifysgol St Petersburg Meddygol y Wladwriaeth 
Adnabyddus amPedwarawd Llinynol Rhif 2, Prince Igor 
Arddullopera, symffoni, cerddoriaeth glasurol, rhamant, cerddoriaeth siambr 
PriodEkaterina Protopopova 
Gwobr/auDinesydd Anrhydeddus yr Ymerodraeth Rwsiaidd 
Cau

Datglygasai diddordeb Borodin mewn cerddoriaeth glasurol yn ystod ei lencyndod. Yn hwyr yn ei ddauddegau cyfarfu â Balakiref, un o gyfansoddwyr Rhamantaidd mawr y cyfnod, a daeth yn aelod o grŵp 'Y Pump'. Bu farw'n sydyn mewn parti yn ei ddinas enedigol, yn 53 oed.

Ei waith

Nid yw Borodin yn gyfansoddwr cynhyrchfawr, gyda dim ond 21 o weithiau i'w enw, ond mae ei waith yn cynnwys y "braslun symffonig" Ar wastadeddau Canolbarth Asia a'r opera Y Tywysog Igor a adaelwyd heb ei gorffen ond a gwblheuwyd gan ei gyfeillion Rimsky-Korsakof a Glazunof. Un o'i edmygwyr mawr oedd Liszt.

Cyfeiriadau

  • Percy A. Scholes, The Oxford Companion to Music (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 10fed argraffiad, 1995)
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.