From Wikipedia, the free encyclopedia
Afon ym Mhowys sy'n llifo i mewn i afon Wysg yw Afon Tarell.
Mae'r afon yn tarddu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gyda nifer o nentydd yn tarddu ar lechweddau'r Fforest Fawr. Llifa tua'r gogledd ac yna tua'r gogledd-ddwyrain am 14 km (9 milltit) ar hyd Glyn Tarell, gan lifo'n gyfochrog a'r briffordd A470 a mynd trwy bentrefi Libanus a Tai'r Bull. Wedi mynd heibio Tai'r Bull, mae Nant Cwm Llwch yn ymuno â hi. Mae'r afon yma yn tarddu yn Llyn Cwm Llwch islaw Pen y Fan.
Llifa Afon Tarell i mewn i Afon Wysg yn Llanfaes, ar oche dde-orllewinol Aberhonddu. Gydag afon Wysg, mae'r afon yn Ardal Gadwraeth Arbennig.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.