From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Afon Yamuna (Sanskrit: यमुना, weithiau Jamuna neu Jumna) yn afon yng ngogledd India. Yr Yamuna yw'r fwyaf o'r afonydd sy'n llifo i mewn i Afon Ganga; mae tua 1370 km o hyd.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | India |
Gwlad | India |
Cyfesurynnau | 31.0047°N 78.4617°E, 25.4236°N 81.8825°E |
Aber | Afon Ganga |
Llednentydd | Afon Tons, Giri, Afon Chambal, Afon Betwa, Afon Ken, Afon Hindon, Afon Sindh |
Dalgylch | 351,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,376 cilometr |
Arllwysiad | 3,480 metr ciwbic yr eiliad |
Mae tarddle'r afon yn Yamunotri, yn yr Himalaya yn Uttarakhand, i'r gogledd o Haridwar. Mae'n llifo trwy Delhi a thaleithiau Haryana ac Uttar Pradesh, cyn ymuno ag Afon Ganga yn Allahabad. Heblaw Delhi, mae dinasoedd Mathura ac Agra ar ei glannau. Yn Agra mae'n llifo heibio'r Taj Mahal. Mae llygredd yn broblem fawr, yn enwedig yn y rhannau o'r afon o amgylch Delhi.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.