Zeno o Elea
From Wikipedia, the free encyclopedia
Athronydd Groegaidd cynnar oedd Zeno o Elea (tua 490 – hyd at tua 470 CC efallai), yn ddisgybl i Parmenides. Roedd ei edmygwyr yn cynnwys Platon ac Aristotlys. Roedd yn frodor o Elea.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Zeno o Elea | |
---|---|
Ganwyd | c. 490 CC Velia |
Bu farw | Velia |
Galwedigaeth | athronydd, mathemategydd, ysgrifennwr |
Adnabyddus am | Zeno's paradoxes |
Prif ddylanwad | Parmenides |
Cau
Fe'i cofir gan Aristotlys fel y gŵr a sylfaenodd y gangen o athroniaeth a elwir yn rhesymeg athronyddol (philosophical dialectics). Mae llawer o'i ddadleuon wedi eu anelu at wrthwynebwyr Parmenides ac yn cynnwys dadleuon yn erbyn lluosogrwydd (plurality) ac yn erbyn dichonolrwydd symudiad.
Mae'n enwog hefyd am ei ddefnydd o baradocsau, sy'n cynnwys paradocs y cwrs rasus, paradocs Achilles, paradocs y saeth, a pharadocs y rhesi symudol (gweler paradocs).