Ysbyty ym Mangor, Gwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysbyty cyffredinol mwyaf Gwynedd, ar safle ym Mhenrhosgarnedd rhwng yr A55 a dinas Bangor, ydy Ysbyty Gwynedd. Dyma bencadlys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n un o ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru. Mae talgylch yr ysbyty yn cynnwys y rhan fwyaf o Wynedd ei hun, Ynys Môn, a rhannau o sir Conwy (cleifion Ysbyty Cyffredinol Llandudno a Bryn y Neuadd).
Math | ysbyty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd, Penrhosgarnedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.21°N 4.16°W |
Rheolir gan | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Ceir dros 550 gwely yn yr ysbyty sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau meddygol dwys a llawfeddygol, yn cynnwys uned damwain fawr, gofal dwys, gofal calon, ac adrannau seiciatreg, mamolaeth a gofal babanod arbenigol. Yma hefyd y ceir prif ganolfan meddyginiaeth yr ardal.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.