From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwarcheidwad archifau cenedlaethol y Deyrnas Unedig o 1838 hyd 2003 oedd yr Archifdy Gwladol (Saesneg: Public Record Office). Yn 2003 cyfunodd â'r Comisiwn Llawysgrifau Hanesyddol i ffurfio'r Archifau Cenedlaethol. Sut bynnag, mae'r Archifdy Gwladol yn dal i fodoli fel endid cyfreithiol.
Enghraifft o'r canlynol | adeilad, archifdy cenedlaethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1838 |
Olynwyd gan | Yr Archifau Cenedlaethol |
Rhanbarth | Dinas Llundain |
Sefydlwyd yr Archifdy Gwladol gan Ddeddf Seneddol ym 1838, i ddiwygio cadw cofnodion y llywodraeth a llysoedd. Cynhaliwyd y rhain yn flaenorol mewn amrywiaeth o leoliadau, yn aml mewn amgylchiadau gwael. Ar y dechrau, nid oedd gan neb ond cyfreithwyr yr hawl i ddefnyddio'r cofnodion, a dim ond ar ôl talu ffi oedd hynny. Sut bynnag, ar ôl 1852 daeth y cofnodion ar gael yn rhwydd i bwrpas ysgolheictod.
Ymysg prif swyddogion yr Archifdy Gwladol rhaid enwi Hilary Jenkinson a fu yno rhwng 1906 a 1954, gan arwain y sefydliad o 1947 hyd 1954.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.