![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/aa/Vieques_jaskyna_na_PlayaNavio.jpg/640px-Vieques_jaskyna_na_PlayaNavio.jpg&w=640&q=50)
Ynysoedd y Wyryf
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cadwyn o ynysoedd yng ngorllewin yr Ynysoedd Cyferwyntol yw Ynysoedd y Wyryf.[1] Maent yn cynnwys tua 90 o ynysoedd bychain (ynysigau), caiau a chreigiau a leolir 64–80 km o ddwyrain Puerto Rico ac yn ymestyn am tua 95 km tuag at Dramwyfa Anegada sy'n cysylltu Môr y Caribî a gweddill Cefnfor yr Iwerydd.[2] Maent ar gwr gogleddol yr Antilles Lleiaf, i'r gorllewin o Anguilla, Sant Marthin ac Ynysoedd Cyferwyntol eraill. Mae Tramwyfa'r Wyryf yn gwahanu Ynysoedd y Wyryf rhag grŵp o ynysoedd ger arfordir Puerto Rico a elwir yn Ynysoedd Sbaenaidd y Wyryf.
![]() | |
Math | ynysfor ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Leeward ![]() |
Arwynebedd | 650 km² ![]() |
Gerllaw | Môr y Caribî ![]() |
Cyfesurynnau | 18.2°N 64.8°W ![]() |
VI ![]() | |
![]() | |
Rhennir yr ynysoedd yn Ynysoedd Americanaidd y Wyryf yn y gorllewin, ac Ynysoedd Prydeinig y Wyryf yn y dwyrain. Un o ardaloedd ynysol yr Unol Daleithiau a weinyddir gan yr Adran Gartref yw Ynysoedd Americanaidd y Wyryf. Maent yn cynnwys y tair ynys fawr St. Croix, St. John, a St. Thomas, ynghyd â rhyw 50 ynysig a chaiau bychain a chanddynt gyfanswm arwynebedd o 345 km2. Tiriogaeth dramor Brydeinig yw Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, sy'n cynnwys y bedair ynys fawr Tortola, Anegada, Virgin Gorda, a Jost Van Dyke, a 32 o ynysoedd ac ynysigau bychain (mwy nag 20 ohonynt heb drigolion), a chanddynt cyfanswm arwynebedd o 153 km2.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fd/SVG_Map_of_Virgin_Islands.svg/640px-SVG_Map_of_Virgin_Islands.svg.png)