From Wikipedia, the free encyclopedia
Ynys yn perthyn i Indonesia yw Ynys Yos Sudarso (Indoneseg: Pulau Yos Sudarso). Saif ger arfordir de-orllewinol ynys Gini Newydd, ac mae'n rhan o dalaith Papua. Yr hen enw arni oedd Ynys Frederik Hendrik; fe'i hail-enwyd ar ôl swyddog yn llynges Indonesia.
Mae'r ynys tua 180 km o hyd a 100 km o led, gydag arwynebedd o 11,600 km². Gorchuddir llawer o'r ynys gan goedwig drofannol, a cheir rhai o goedwigoedd Mangrof mwyaf y byd o gwmpas ei glannau.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.