Ynys Somerset
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Somerset (Saesneg: Somerset Island). Gydag arwynebedd o 24,786 km², hi yw'r ddeuddegfed o ran maint o ynysoedd Canada, a'r 45ain o ran maint yn y byd. Nid oes poblogaeth barhaol arni.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canadian Arctic Archipelago |
Sir | Nunavut |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 24,786 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Arctig |
Cyfesurynnau | 73.25°N 93.5°W |
Hyd | 225 cilometr |
Cau
Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut. Saif gerllaw Penrhyn Boothia, gyda Chulfor Bellot yn eu gwahanu. Tua'r flwyddyn 1000, roedd y bobl Thule yn byw ar arfordir gogleddol yr ynys. Yn 1937, sefydlwyd Fort Ross gan Gwmni Bae Hudson, ond bu raid rhoi gorau i'r sefydliad ymhen unarddeg mlynedd oherwydd nad oedd yn economaidd.