Ynys Môn (etholaeth seneddol)
etholaeth seneddol / From Wikipedia, the free encyclopedia
Etholaethau seneddol yw Ynys Môn, sy'n danfon un cynrychiolydd o'r etholaeth i Senedd San Steffan. Yr Aelod Seneddol cyfredol yw Virginia Crosbie (Ceidwadwyr).
Etholaeth Sir | |
---|---|
Ynys Môn yn siroedd Cymru | |
Creu: | 1545 |
Math: | Tŷ'r Cyffredin |
AS presennol: | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
Dewiswyd Megan Lloyd George i sefyll yn etholiad cyffredinol 1929 yn dilyn cryn ddylawad gan ei rhieni ar y dewis. Cafodd 13,181 pleidlais gyda mwyafrif o 5,618 yn erbyn yr ymgeisydd Llafur, William Edwards. Hi oedd y ddynes gyntaf i'w hethol yn Aelod Seneddol dros etholaeth Gymreig. Ni safodd Llafur yn etholiad 1931 ac fe gadwodd Megan y sedd (fel y gwnaeth yn 1935) er i Lafur ymladd y sedd y flwyddyn honno.
Ynys Môn yw'r unig etholaeth yng Nghymru i gael ei chynyrchioli yn San Steffan gan bedair plaid wahanol yn ystod yr 20g. Daliodd Megan Lloyd George y sedd dros y Rhyddfrydwyr o 1929 hyd 1951, yna trechwyd hi gan Cledwyn Hughes dros y Blaid Lafur o 1951 hyd 1979; enillodd Keith Best y sedd dros y Ceidwadwyr o 1979 hyd 1987 a Ieuan Wyn Jones dros Blaid Cymru o 1987 hyd 2001.