Ynys Castell
ynys yng Nghymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ynys fechan yn Afon Menai sy'n gorwedd rhwng Ynys Môn ac Arfon yw Ynys Castell (cyfeiriad OS: SH 564727). Saif yng nghymuned Cwm Cadnant.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Cau
Mae'r ynys yn graig ymwthiol o schist Cyn-Gambriaidd sy'n gorwedd ar ymyl aber Afon Cadnant, oddi ar arfordir deheuol Môn, rhwng Ynys y Bîg ac Ynys Gaint. Mae sarn a orchuddir pan fo'r llanw'n uchel yn cysylltu'r ynys â'r brif ynys. Ceir tŷ preifat arni.