Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ymgyrch filwrol a ddechreuodd gyda bomio o'r awyr a'r môr ac a ddatblygodd wedyn i fod yn ymosodiad eang ar dir gan fyddin Israel ar y Palesteiniaid yn Llain Gaza oedd Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008—2009, neu'r "Ymgyrch Plwm Bwrw" (Operation Cast Lead), fel y'i gelwid yn swyddogol gan lywodraeth Israel. Roedd yr ymgyrch yn rhan o hen ffrwgwd rhwng y ddwy genedl, ffrwgwd a elwir yn Wrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd.
Yn nyddiau cynnar yr ymosodiad hwn, lladdwyd 4 Israeliad gan rocedi a thuag 9 milwr ar faes y gâd.[1] Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, erbyn y 30eg o Ragfyr roedd 320 o Balesteiniaid wedi'u lladd, 62 ohonynt yn blant neu'n ferched, cyn yr ymladd ar dir.[2] Yn ninas Gaza, lladdwyd pum chwaer o'r un teulu gan fomiau awyr Israel ar 30 Rhagfyr 2008.[3] Erbyn 19 Ionawr 2009 roedd y ffigwr wedi codi i tua 1,315 o Balesteiniaid wedi'u lladd, gan gynnwys dros 300 o blant, a thros 4,500 wedi'u hanafu; roedd 13 Israeliad wedi marw, gyda dim ond 3 yn sifiliaid, a rhai o'r milwyr wedi eu saethu gan eu byddin nhw eu hunain.[4], gyda'r ffigwr yn debyg o fod yn uwch mewn gwirionedd oherwydd anawsterau hel gwybodaeth dan yr amgylchiadau. Cyhuddwyd Israel o ddefnyddio bomiau ffosfforws gwyn yn ogystal â bomiau sy'n cynnwys iwraniwm disbyddiedig. Yn ogystal dechreuodd UNHRC ymchwiliad i gyhuddiadau o droseddau rhyfel gan Israel.
Daeth yr ymosodiad i ben ar 18 Ionawr, 2009 wedi i Israel ac yna Hamas gyhoeddi cadoediad.[5] Erbyn 21 Ionawr roedd Israel wedi tynnu eu milwyr o Lain Gaza.[6] Ar 2 Mawrth adroddwyd fod noddwyr rhyngwladol wedi addo $4.5 billion fel cymorth ar gyfer y Palesteiniaid, yn bennaf ar gyfer adfer ac ail-adeiladu Gaza yn dilyn y bomio a'r ffrwydro gan yr Israeliaid.[7]