Rhestr Ymerodron Bysantaidd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyma Restr Ymerodron Bysantaidd.
Sylwch: Mae'n anodd dweud pryd daeth yr Ymerodraeth Rufeinig i ben a phryd dechreuodd yr Ymerodraeth Fysantaidd. Rhannodd yr ymerodr Diocletian yr ymerodraeth yn ddwy ran, yr Ymerodraeth Ddwyreinol a'r Ymerodraeth Orllewinol, am bwrpasau gweinyddol, yn y flwyddyn 284.
Mae sawl ymgeisydd am yr anrhydedd o fod yr ymerodr Bysantaidd "cyntaf".
- Cystennin I (yr ymerodr Cristnogol cyntaf, a symudodd y brifddinas i Gaergystennin)
- Valens. Brwydr Adrianople (378) yw un o'r dyddiadau traddodiadol ar gyfer dechrau yr Oesoedd Canol.
- Mae Arcadius (fel Theodosius I) yn cael ei ystyried fel ymerodr olaf yr Ymerodraeth Rufeinig unedig, a Zeno I (fel yr ymerodr gorllewinol olaf).
- Mae eraill yn dadlau bod yr ymerodraeth wedi ddechrau mor hwyr ag yn oes Heraclius (a wnaeth yr iaith Roeg yn iaith swyddogol), ac mae arbenigwyr arian bath yn ei gyfri o'r diwygiad ariannol Anastasius I yn 498. Wrth gwrs, roedd dinesyddion yr ymerodraeth yn dal i alw eu hymerodraeth yn Rhufeinig tan 1453.