From Wikipedia, the free encyclopedia
Afiechyd heintus ar bobl a phlant yw'r frech goch (Saesneg: measles) sy'n tarddu o feirws paramyxovirus (o'r genws Morbillivirus) ac sy'n ymosod ar y system anadlu.
Enghraifft o'r canlynol | clefyd hysbysadwy, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | Morbillivirus infectious disease, clefyd heintus firol |
Arbenigedd meddygol | Afiechydon heintiol |
Symptomau | Y dwymyn, peswch, runny nose, maculopapular rash, lymphadenopathy, anorecsia, dolur rhydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r symptomau'n cynnwys peswch, tishian, llygaid coch, trwyn gwlyb, twymyn a smotiau cochion (neu frech). Mae'r frech goch yn hynod o heintus ac yn ymledu drwy i'r hylif (o'r trwyn neu'r geg) gyffwrdd person arall, naill ai drwy gyffyrddiad neu drwy'r aer. Ar gyfartaledd mae 90% o bobl sydd yn byw yn yr un tŷ yn ei ddal, oni bai fod ganddyn nhw imiwnedd i'r haint. Gall y cyfnod heintio fod rhwng 6–19 diwrnod.[1]
Mae'r brechlyn trifflyg MMR yn cael ei roi i fabanod er mwyn atal yr haint hwn.
Cafwyd cynnydd yn y nifer o achosion o'r frech goch yn Abertawe yn Ebrill 2013, gyda thros 620 achos (hyd at 16 Ebrill).[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.