![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/92/Liberia_Ivory_Coast_border.png/640px-Liberia_Ivory_Coast_border.png&w=640&q=50)
Y ffin rhwng Liberia a'r Traeth Ifori
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r ffin rhwng Liberia a'r Traeth Ifori yn ymestyn rhyw 445 milltir o'r fan driphlyg â Gini yn y gogledd hyd at yr arfordir â Gwlff Gini, yng Nghefnfor yr Iwerydd, yn y de. Mae rhan ogleddol y ffin yn cyd-redeg mwy neu lai â blaenau Afon Nuon, prif lednant Afon Cestos, o'i tharddle yn y fan driphlyg—sef Mynydd Nuon yng Nghadwyn Nimba, yn neuheubarth Ucheldiroedd Gini—am ryw 115 milltir cyn troi i'r de-ddwyrain i fyny'r afonydd Nimoi a Dain am 16 milltir. Ym mlaenddyfroedd Afon Dain mae'r ffin yn neidio draw i Afon Boan am saith milltir, cyn ymuno â chwrs Afon Cavalla, am 445 milltir, hyd at ei haber. Am y rhan helaethaf o'i hyd, saif y goror ar ochr Liberia o'r afonydd. Mae'r ffin yn gwahanu siroedd Grand Gedeh, River Gee, Maryland, a Nimbia yn Liberia oddi ar ardaloedd Montagnes a Bas-Sassandra yn y Traeth Ifori.[1][2]
![]() Map o'r ffin rhwng Liberia a'r Traeth Ifori. | |
Math | ffin, ffin ar dir, maritime boundary, ffin rhyngwladol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | borders of Liberia, borders of Côte d'Ivoire ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Cyfesurynnau | 7.56°N 8.47°W ![]() |
Hyd | 716 cilometr ![]() |
![]() | |