Y Tŷ Glas
From Wikipedia, the free encyclopedia
Swyddfa weithredol a chartref swyddogol Arlywydd Gweriniaeth Corea yw'r Tŷ Glas (Coreeg: 청와대; Hanja 靑瓦臺; Cheong Wa Dae; yn llythrennol "pafiliwn y teils gleision")[1][2][3], a saif yn y brifddinas, Seoul. Mewn gwirionedd, cyfres o adeiladau yw'r Tŷ Glas, a adeiladwyd yn arddull draddodiadol pensaernïaeth Corea gyda rhai elfennau modern.
Ffeithiau sydyn Math, Agoriad swyddogol ...
Math | adeilad gweinyddiaeth gyhoeddus, presidential palace |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1991 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Jongno District |
Gwlad | De Corea |
Cyfesurynnau | 37.586692°N 126.974864°E |
Cod post | 03048 |
Perchnogaeth | De Corea |
Cau
Fe'i adeiladwyd ar safle gardd frenhinol Brenhinlin Joseon (1392–1897) ac nawr mae'n cynnwys Neuadd y Brif Swyddfa (Coreeg: 본관; Hanja 本館), Cartref yr Arlywydd, Tŷ Croeso'r Wlad (Coreeg: 영빈관; Hanja: 迎賓館), Neuadd Wasg y Chunchugwan (Coreeg: 춘추관; Hanja: 春秋館) ac Adeiladau'r Ysgrifenyddiaeth. Mae'r adeiladau i gyd yn sefyll ar ryw 250,000 o fetrau sgwâr neu 62 o erwau o dir.