![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/ae/University_Hospital_of_Wales%252C_Heath_Park_-_Cardiff_-_geograph.org.uk_-_1736088.jpg/640px-University_Hospital_of_Wales%252C_Heath_Park_-_Cardiff_-_geograph.org.uk_-_1736088.jpg&w=640&q=50)
Y Mynydd Bychan
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal yng ngogledd Caerdydd ydy'r Mynydd Bychan (Saesneg: Heath). Mae'r rhan fwyaf o dai yr ardal yn rhai led-wahân, dosbarth canol, a adeiladwyd yn ystod y 1920au–1950au. Adeiladwyd Ysbyty Athrofaol Cymru ar hen safle Coedwig Mynydd Bychan yn yr 1960au, felly mae'r rhanfwyaf o lefydd gwyrdd yr ardal wedi diflannu. Mae Parc Mynydd Bychan wedi goroesi fodd bynnag, gyda choed a glaswellt, cyfleusterau chwaraeon a rheilffordd stêm ar raddfa fechan.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | cymuned, maestref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.511°N 3.199°W ![]() |
Cod SYG | W04000848 ![]() |
AS/au | Anna McMorrin (Llafur) |
![]() | |
Cau