mynydd (898m) yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Lliwedd (weithiau Lliwedd) yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Rhan o'r canlynol | Yr Wyddfa a'i chriw |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 898 metr |
Cyfesurynnau | 53.1°N 4.1°W |
Cod OS | SH6224553339 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 154 metr |
Cyfnod daearegol | Ordofigaidd |
Rhiant gopa | Yr Wyddfa |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Mae ychydig yn is (898m) na chopa'r Wyddfa ei hun. Nid yw'n ddigon uchel i'w gyfrif ymysg y pedwar copa ar ddeg, ond mae'n ymddangos ar restrau Marilyn, Hewitt a Nuttall.
Mae Bwlch y Saethau yn gwahanu'r Lliwedd a'r Wyddfa. Ychydig ymhellach ar hyd y grib o'r Lliwedd mae Lliwedd Bach, yna copa is Gallt y Wenallt, lle mae'r grib yn gorffen. Ar ochr ogledd-ddwyreiniol y mynydd mae clogwyni serth uwchben Glaslyn a Llyn Llydaw. Roedd y clogwyni yma yn arbennig o boblogaidd gyda dringwyr flynyddoedd yn ôl. Ar yr ochr dde-orllewinol mae Cwm Llan, a thu draw iddo Yr Aran.
Gellir dringo Lliwedd o Ben y Pas, ond mae'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n cyrraedd y copa yn gwneud hynny fel rhan o Bedol yr Wyddfa, sy'n cynnwys Crib Goch a chopa'r Wyddfa ei hun yn y daith. Gellir hefyd gyrraedd y copa trwy ddilyn llwybr Watkin o Bont Bethania ger Beddgelert ond troi i'r dde cyn dechrau ar y darn olaf o'r llwybr i gopa'r Wyddfa.
Lliwedd oedd pwnc y llawlyfr dringo (yn hytrach na cherdded mynyddoedd) cyntaf i'w gyhoeddi ar Ynysoedd Prydain yn 1909, The climbs on Lliwedd gan J. M. A. Thomson ac A. W. Andrews.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.