![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/65/Gnoll_Castle%252C_Glamorganshire.jpeg/640px-Gnoll_Castle%252C_Glamorganshire.jpeg&w=640&q=50)
Y Gnoll
cyn-blasty ger Castell Nedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Plasdy ger Castell-nedd yn ne Cymru yw Y Gnoll. Daw ei enw o'r bryn coediog y tu ôl iddo. Bu'n sedd deuluol y teulu Evans o Gastell-nedd o'r 17g hyd y 19g.
Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
![]() | |
Math | castell, plasty ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.660501°N 3.793554°W ![]() |
![]() | |
Cau
- Erthygl am y plasdy yw hwn. Gweler hefyd Parc Gwledig y Gnoll. Am yr hen stadiwn rygbi gweler Y Gweilch.
Priododd y diwydiannwr Syr Humphrey Mackworth â Mary, merch Syr Herbert Evans o'r Gnoll, ar ddiwedd yr 17g ac etifeddodd ei wraig llawer o'r ystâd. Bu'n arloeswr y diwydiant glo yn Ne Cymru a bu ganddo ran flaenllaw yn sefydlu'r diwydiant copr yno hefyd. Codwyd y prif dŷ gan eu disgynydd gan Syr Herbert Mackworth yn 1776-8 ; y pensaer oedd John Johnson o Gaerlŷr. Adeilad Sioraidd oedd hwn. Cynlluniwyd gerddi helaeth yn y cyfnod yma hefyd, yn cynnwys terasau, lawntiau a ffynhonnau ; mae'r cyfan yn rhan o Barc Wledig y Gnoll heddiw.