corff cenedlaethol i ddysgu Cymraeg i bobl tu hwnt i'r system addysg gwladol. From Wikipedia, the free encyclopedia
Corff sy'n gyfrifol am ddysgu Cymraeg y tu hwnt i addysg orfodol yw'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Cymerodd y Ganolfan gyfrifoldeb llawn am y sector Cymraeg i Oedolion ar 1 Awst 2016. Cyn hynny — ers 2006 — perthyn i'r Canolfannau Cymraeg i Oedolion oedd y cyfrifoldeb hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Pwyllgor Craffu i'w chynghori yn ei chylch am faterion megis gwerth am arian.[1] Cafodd Efa Gruffudd Jones ei phenodi yn brif weithredwr ym mis Medi 2015[2] i gychwyn ar ei gwaith ar ddechrau 2016. Gyda phenodi Efa Gruffudd Jones i swydd Comisiynydd y Gymraeg, penodwyd Dona Lewis yn Brif Weithredwr ar y Ganolfan ym mis Rhagfyr 2022.[3]
Cafodd y Ganolfan ei sefydlu yn sgil sawl adroddiad:
Ym mis Mai 2015 y penderfynodd Llywodraeth Cymru ddyfarnu grant i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i sefydlu'r 'endid' genedlaethol a argymhellwyd gan y Grŵp Adolygu a gafodd ei enwi'n Ganolfan yn y diwedd. Mae'r arian a roddwyd i faes Cymraeg i Oedolion wedi ei gwtogi ers 2014-15 o £11,882,012 i £10,568,711 yn 2016-17.[7]
Ni ddylid cymysgu'r Canolfannau Cymraeg i Oedolion gyda'r canolfannau Cymraeg y rhoddwyd £1.500,000 gan y Llywodraeth yn 2015 i'w sefydlu.[8] Mae'n debyg mai ymateb y Llywodraeth oedd hyn i adroddiad arall a edrychodd ar faes Cymraeg i Oedolion ac a argymhellodd sefydlu canolfannau cymdeithasol Cymraeg. Cafodd Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy’n Dysgu’r Gymraeg: Ymdrechion i Wrthdroi Shifft Ieithyddol mewn Cymunedau cymharol ddi-Gymraeg[dolen farw] ei gyhoeddi gan Academi Hywel Teifi ym mis Gorffennaf 2012.
Mae'r Ganolfan yn dilyn canllawiau Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR) ar gyfer asesu rhuglder a chaffael iaith dysgwyr. Serch hynny, nododd papur gwyn Bil Addysg Gymraeg 2023 gall bydd sefydliadau megis y Ganolfan am addasu tabl a mesuriadau CEFR ar gyfer anghenion a chyd-destun Gymreig. Nodwyd hefyd, gan mai cynllun o dan arweiniad Cyngor Ewrop yw CEFR y gall hyn hefyd newid yn y dyfodol neu dod i ben.[9]
Yn 2024 lansiodd y Ganolfan wobr Tlws Coffa Aled Roberts i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg. Enillydd cyntaf y Tlws oedd Gwilym Roberts, Caerdydd am ei wasanaeth dros ddegawdau yn dysgu Cymraeg i bobl ifainc ac oedolion.[10][11]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.