stori fer gan Hans Christian Andersen From Wikipedia, the free encyclopedia
Stori fer i blant gan Hans Christian Andersen yw Y Dywysoges a'r Bysen (Daneg: "Prinsessen på Ærten").[1] Fe'i gyhoeddwyd yn gyntaf ar 8 Mai 1835 yn Copenhagen gan C. A. Reitzel.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Hans Christian Andersen |
Iaith | Daneg |
Dyddiad cyhoeddi | 8 Mai 1835 |
Genre | tale, literary fairy tale |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Andersen, yn fwy na thebyg, wedi clywed y stori pan oedd yn blentyn.[2] Nid oedd y stori wedi'i chofnodi cyn hynny, felly mae'n perthyn i'r diwylliant llafar o drosglwyddo gwybodaeth o riant i blentyn.
Wedi cyhoeddi'r Dywysoges a'r Bysen, derbyniodd feirniadaeth negyddol iawn gan y darllenwyr Daneg, oherwydd eu bod wedi'u hysgrifennu mewn arddull rydd, tebyg i sgwrs, ac nad oedd y foeswers yn ddigon cryf.[3]
Addaswyd y stori yn 1959 ar gyfer drama gerdd ac a oedd yn serennu Carol Burnett. Cafodd addasiad Cymraeg ei berfformio yn 2018 gan Theatr y Sherman.[4]
Roedd y tywysog eisiau canfod tywysoges i'w phriodi. Ond nid oedd pob tywysoges yn dywysoges go iawn. Un noson, pan arhosodd dynes yn y palas i gael lloches rhag storm, teimlodd bysen trwy ugain matres ac ugain cwilt. Yn ôl y stori dim ond tywysogesau go wir allai wneud hyn, felly priododd y tywysog hi.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.